Mae STP yn rhaglen o hyfforddiant mynediad i raddedigion sy'n arwain at rolau gwyddonwyr uwch a chofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal HCPC. Mae hyfforddeion STP yn cael eu cyflogi gan gyfundrefn GIG am gyfnod eu hyfforddiant ac yn derbyn cyflog.
Mae manylion y ceisiadau i'w gweld yma.
Mae ymgyrch recriwtio flynyddol a arweinir gan AaGIC mewn cydweithrediad â Sefydliadau GIG Cymru, sydd wedi gofyn am hyfforddeion drwy gynllun gweithlu eu sefydliad.
Y broses Recriwtio:
Rhaid i bob hyfforddai STP gofrestru gyda'r brifysgol berthnasol a’r Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd.
Mae modd dod o hyd i ganllawiau cyllido yma.
Mae HSST yn rhaglen hyfforddiant ddoethuriaethol bum mlynedd yn y gweithle, sy'n rhoi'r cyfle i wyddonwyr clinigol hyfforddi a dod yn gymwys i wneud cais am swyddi gwyddonwyr clinigol ymgynghorol.
Mae modd dod o hyd i ganllawiau cyllido yma.
Mae cofrestru proffesiynol yn fuddiol i gleifion a'r cyhoedd, ond hefyd i wasanaethau ac i'r gweithwyr proffesiynol cofrestredig eu hunain. O fewn meysydd gwyddor gofal iechyd proffesiynol mae cofrestrau gorfodol HCPC ar lefel raddedig (ar gyfer Gwyddonwyr Biofeddygol, Radiograffwyr ac Ymarferwyr Adran Llawdriniaeth) ac ar lefel ôl-raddedig (Gwyddonwyr Clinigol). Mae yna hefyd amrywiaeth o gofrestrau a reoleiddir y PSA a chymwysterau rheoledig eraill. Mae camau’n cael eu cymryd o fewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru i gynnwys y rhain fel meini prawf hanfodol ar gyfer rolau, lle maent ar gael.
Ar gyfer yr holl fathau hyn o gofrestru, mae llwybrau trwy brofiad hyblyg i gofrestru ar gael sy'n galluogi gwyddonwyr gofal iechyd i ddangos bod eu hyfforddiant, eu cymwysterau a'u profiad yn cyfateb i'r llwybr hyfforddi safonol. Mae’r rhain yn galluogi staff sy’n gweithio yng Nghymru i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn effeithiol, gan gydnabod y profiad sylweddol a enillir wrth weithio yng ngwasanaethau’r GIG.
Mae gan AaGIC ddyraniad cyllid sefydledig ar gyfer cefnogi staff y GIG o fewn Gwyddor Gofal Iechyd i gael mynediad at addysg a fydd yn eu galluogi i gofrestru/rheoleiddio drwy lwybr amgen neu gyfwerthedd. Gellir defnyddio'r cyllid hwn hefyd i ariannu'r broses ymgeisio am lwybr cyfwerth/amgen. Mae cyllid ar gael yn flynyddol ym mis Ebrill. Rhaid i sefydliadau sydd am fanteisio ar y cyllid hwn lenwi'r ffurflen gais hon ar gyfer pob ymgeisydd unigol sy'n ceisio cael gafael ar y cyllid hwn. Rhaid i'r ffurflen gais am gyllid gael ei llenwi gan reolwr y derbynnydd arfaethedig (naill ai'r rheolwr llinell neu'r rheolwr gwasanaeth fel y bo'n briodol).
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am wyddoniaeth gofal iechyd drwy glicio yma.