Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb AaGIC i adroddiad GMC: Cyflwr addysg feddygol ac ymarfer yn y DU

Fel comisiynydd hyfforddiant meddygol ôl-raddedig yng Nghymru, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gwerthfawrogi ein hyfforddwyr a'n hyfforddeion a'u cyfraniad hanfodol i ofal cleifion yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod y themâu sy'n codi o'r arolygon yn yr adroddiad hwn ac mae ein hyfforddwyr a'n hyfforddeion wrth wraidd ein gwaith i fynd i'r afael â nhw.

Uchelgais ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol erbyn 2030 yw cael gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol llawn cymhelliant, ymgysylltiol a werthfawrogir, gyda'r gallu, cymhwysedd a'r hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru. Mae'n disgrifio dull sy'n rhoi lles a chynhwysiant wrth wraidd yr holl gynlluniau ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal.

Adlewyrchir yr uchelgais hon yn ein gwaith gyda hyfforddwyr, hyfforddeion a phartneriaid gyda'r nod o wella profiadau meddygon mewn hyfforddiant yng Nghymru.

Mae'r gwaith hwn yn cynnwys: cefnogi unrhyw un sydd mewn perygl o driniaeth wahaniaethol, cynyddu cyfleoedd gwaith hyblyg, cynyddu nifer y gweithlu ar draws proffesiynau, cefnogi amser i hyfforddi a chael eu hyfforddi, cynyddu capasiti trwy fodelau gofal amlbroffesiynol, a chynyddu adnoddau a chefnogaeth llesiant drwy ein Huned Cymorth Proffesiynol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn ein hadroddiad Gwella Hyfforddiant Meddygol.

Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i wreiddio arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol ar draws GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys: ein Cymrodoriaethau Hyfforddeion Arwain Clinigol blaenllaw yng Nghymru, ein rhaglen Arweinyddiaeth Glinigol Uwch ar gyfer uwch glinigwyr a chyfoeth o ddatblygu arweinyddiaeth ac adnoddau ar gyfer yr holl staff, ar bob lefel, ar Borth Arweinyddiaeth Gwella.

Rydym yn falch iawn bod y GMC wedi lleisio eu cefnogaeth i'n hagenda arweinyddiaeth dosturiol, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw'n agosach dros y misoedd nesaf i ymgorffori ein hegwyddorion arweinyddiaeth tosturiol ar draws y proffesiynau meddygol yng Nghymru.