Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Hyfforddiant Meddygol yng Nghymru

Heddiw (Dydd Iau 19 Mai 2022), rydym wedi rhyddhau cyhoeddiad cyntaf adroddiad blynyddol newydd, sef Gwella Hyfforddiant Meddygol yng Nghymru.

Mae’r adnodd newydd hwn wedi’i ddatblygu gan ein Deoniaeth Feddygol gyda chymorth Pwyllgor Hyfforddeion Cymru er mwyn cyfleu’r ymroddiad a’r gwaith sy’n cael ei wneud yn AaGIC i wella profiadau a bywydau meddygon sy’n cael eu hyfforddi, ac sy’n gweithio ac yn byw, yng Nghymru.

Hoffen ni achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n meddygon dan hyfforddiant, sydd wedi parhau i ddangos ymroddiad, arloesedd ac arweinyddiaeth aruthrol, gan weithio, yn aml, y tu allan i feysydd arferol eu hymarfer clinigol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Meddai Dr Jaiker Vora, Cymrawd Arweinyddiaeth Glinigol Cymru yn AaGIC ac aelod o Bwyllgor Hyfforddeion Cymru: “Rwy’n gobeithio bydd cyhoeddiad cyntaf y ddogfen flynyddol hon yn adnodd defnyddiol i’m cyd-hyfforddeion a fydd yn tynnu sylw at y gwaith parhaus sy’n cael ei wneud yn AaGIC ac a fydd yn gwella ein hyfforddiant yn y pendraw. Rwy’n gobeithio y bydd hi hefyd yn dangos sut y gall pynciau sy’n cael eu codi gan hyfforddeion, waeth beth yw’r lefel a’r ardal ddaearyddol, gael effaith gynaliadwy ar hyfforddiant ledled Cymru.”

Mae modd darllen yr adroddiad newydd ar ein gwefan, yma.

Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect a byddem yn croesawu adborth gan unrhyw randdeiliaid a hoffai weld newidiadau o ran y cynnwys yng nghyhoeddiadau’r dyfodol.