Bob wythnos yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mae ein timau yn gweithio i gryfhau'r gweithlu iechyd a gofal ledled Cymru. Drwy fuddsoddi mewn addysg, arloesedd a chydweithio, rydym yn helpu i adeiladu gweithlu sy'n barod i ddiwallu heriau heddiw ac anghenion yfory.
Cymerwch olwg ar rai o uchafbwyntiau’r wythnos hon:
Beth mae arweinyddiaeth gynhwysol yn ei olygu i chi? Yn lansio ym mis Ionawr: Cyfres Arweinyddiaeth Arbenigol AaGIC 2026
Sesiwn Arweinyddiaeth Gynhwysol ar gyfer Uwch Arweinwyr https://nhswalesleadershipportal.heiw.wales/events/8bfe531d-b5b8-4f81-8378-0ffa29289f13/overview
Helpwch i Lunio Dyfodol Optometreg yng Nghymru! Mae AaGIC yn chwilio am bractisau optometreg ledled Cymru i gynnal a goruchwylio hyfforddeion Rhagnodi Annibynnol (IP). Os oes gennych chi optometrydd IP gyda 2+ blynedd o brofiad rhagnodi, ymunwch â'n rhwydwaith o Ymarferwyr Hyfforddi Uwch AaGIC. Cysylltwch gyda: HEIW.optometryatp@wales.nhs.uk
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol pobl yn GIG Cymru, yn gweithio ar draws pobl a datblygu sefydliadol, dysgu a datblygu, dadansoddeg pobl neu gynllunio'r gweithlu? Mae Map Proffesiynau Pobl GIG Cymru bellach ar gael i'ch helpu i ddatblygu, ffynnu a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich rôl. https://aagic.gig.cymru/newyddion/newydd-i-gig-cymru-lansiwyd-map-proffesiynau-pobl-i-gryfhau-sgiliau-a-galluoedd-proffesiwn-pobl-ar-draws-gwasanaethau-iechyd-a-gofal/
Rydym wedi cyhoeddi adroddiad diweddaraf GIG Cymru ar dueddiadau gweithlu sy'n rhoi cipolwg ar 31 Mawrth 2025. https://heiw.nhs.wales/files/workforce-trends-report-march-2025/
Newyddion ar y Broses Gymeradwyo Goruchwylwyr Addysgol Deintyddol Cymru (DESAP)! Mae Proses Gymeradwyo Goruchwylwyr Addysgol Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol blynyddol AaGIC ar agor rhwng 20 Ionawr 2026 – 20 Chwefror 2026. https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/deintyddol/rhaglenni-hyfforddi/hyfforddiant-deintyddol-sylfaenol/proses-gymeradwyo-goruchwyliwr-addysgol/
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi lansiad 'Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) ac Ymarfer sy'n Ystyriol o Drawma yng Nghymru', cwrs e-ddysgu newydd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru. https://aagic.gig.cymru/newyddion/cefnogi-gofal-tosturiol-lansio-e-ddysgu-trawma-newydd/
Dyddiadau hyfforddant Endosgopi newydd 2026 wedi'u cadarnhau! Mae AaGIC ac Academi Endosgopi Cymru wrth eu bodd yn cadarnhau ein rhaglen hyfforddi ar gyfer 2026, sy'n cefnogi endosgopyddion, nyrsys, rheolwyr a gweithwyr endosgopi ledled Cymru. 🔗 https://aagic.gig.cymru/ein-gwaith/archebu-hyfforddiant-endosgopi-yn-gig-cymru/
Gofalu am gymunedau ledled Cymru? Mae GatewayC yma i'ch cefnogi gydag addysg canser ar-lein am ddim, wedi'i chynllunio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd clinigol prysur sy'n gweithio mewn gofal sylfaenol ledled Cymru. Dechreuwch archwilio heddiw: www.gatewayc.org.uk
Ydych chi'n rhan o'r tîm gofal sylfaenol brys? Rydym wedi creu adnodd cyfeirio newydd, wedi'i gynllunio i roi mynediad canolog i feddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd at offer a chanllawiau ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, y gellir eu defnyddio i helpu i asesu pryderon iechyd meddwl cleifion ac ymateb yn effeithlon iddynt. https://aagic.gig.cymru/newyddion/adnodd-newydd-wedii-lansio-i-wella-cefnogaeth-iechyd-meddwl-mewn-lleoliadau-gofal-sylfaenol-brys/
Cyflwyno HALI: Grymuso Gweithlu Gofal Iechyd Cymru gyda Deallusrwydd Artiffisial Rydym yn falch o ddatgelu HALI – y Rhyngwyneb Dysgu Deallusrwydd Artiffisial Gofal Iechyd – sgwrsbot Deallusrwydd Artiffisial arloesol sydd wedi'i gynllunio i feithrin hyder, gwybodaeth a gallu digidol ar draws GIG Cymru. Cyrchwch HALI drwy Y Ty Dysgu: https://ytydysgu.heiw.wales/