Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn recriwtio staff y GIG i fod yn Hyrwyddwyr Hinsawdd Doeth.

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd, gan ddangos bod Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â her newid yn yr hinsawdd.

Mewn ymateb i hyn, gosododd Llywodraeth Cymru darged o sero net yn y sector cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2030.

GIG Cymru yw’r allyrrydd sector cyhoeddus mwyaf o C02, gydag ôl troed carbon o tua 1.00MtC02e. Mae hyn yn cyfateb i ddefnydd ynni bron 126,000 o gartrefi am flwyddyn gyfan!

Mae AaGIC wedi ymrwymo i greu a gyrru newid cynaliadwy ledled GIG Cymru. I wneud hyn, rydym yn recriwtio Eiriolwyr Hinsawdd Glyfar o weithlu’r GIG.

 

Beth yw Eiriolwyr Hinsawdd Glyfar?

Mae eiriolwr hinsawdd-glyfar yn rhywun a fydd yn arwain ar drawsnewid GIG Cymru yn sefydliadau callach, mwy llwyddiannus a mwy cynaliadwy.

Rydym am i gydweithwyr ar bob lefel o’r GIG roi newid cynaliadwy ar waith yn eu hamgylcheddau gwaith amrywiol.

Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sy’n gweithio i’r GIG yng Nghymru.

Mae hwn yn ychwanegiad ardderchog at eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac yn helpu i'ch cysylltu â chydweithwyr ar draws y GIG i helpu i ddysgu a datblygu eich hun a'ch gwasanaeth.

Beth Sydd Dan Sylw?

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys:

  • Cyfnod paratoi ar gyfer astudiaeth annibynnol (tua chwe awr)
  • Gweithdy rhithwir (sesiynau pedair awr)
  • Mae cyfleoedd ar gael ar gyfer cymorth prosiect parhaus ac ymgysylltu â chymheiriaid trwy gaffis gofal iechyd cynaliadwy trwy gydol y flwyddyn.

Mae'r fenter hon yn rhan o ymgyrch AaGIC i gyflawni yn erbyn ein cyfrifoldebau sefydliadol a GIG Cymru. Mae'r rhain yn sicrhau, ymhen tair blynedd, y byddwn wedi ymgorffori'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatgarboneiddio ac ymchwil i arweinyddiaeth, ymarfer, hyfforddiant ac addysg gofal iechyd, gan gefnogi ymagwedd Gymreig at ofal iechyd cynaliadwy.

Yn 2024/25, bydd AaGIC yn sicrhau bod rhagor o gyfleoedd hyfforddi ar gael – bydd llefydd yn gyfyngedig, felly cadwch olwg am ragor o wybodaeth ar y Gymuned Hinsawdd Glyfar (gweler isod) a gwefan AaGIC.
 

Camau nesaf

Ar ôl cwblhau’r cwrs a dod yn Eiriolwr Hinsawdd Glyfar swyddogol, mae gennych gyfle i gadarnhau eich dysgu ymhellach ac adeiladu ar eich diddordeb mewn Cynaliadwyedd trwy ymuno â Chymuned Hinsawdd Glyfar ar Gwella.

Pwrpas y gymuned yw adeiladu rhwydwaith i helpu i wreiddio meddylfryd hinsawdd glyfar mewn gofal iechyd, i ddarparu cefnogaeth i aelodau a dysgwyr, ac i rannu, cyfeirio a hyrwyddo trafodaethau, adnoddau, a chyfleoedd hyfforddi.

Bydd yn darparu cymorth parhaus i Hyrwyddwyr Hinsawdd Glyfar sydd wedi dilyn hyfforddiant drwy AaGIC ond sy’n agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynaliadwyedd.

Ymunwch â'r rhwydwaith heddiw!

 

Hyfforddiant Ychwanegol:

Yn unol ag ymrwymiad AaGIC i addysg a hyfforddiant gofal iechyd cynaliadwy, rydym wedi nodi cwrs ar ESR a all wella eich dealltwriaeth o ofal iechyd cynaliadwy a sut y gallwch ei gefnogi.

Mae AaGIC yn hyrwyddo’r modiwl hwn fel y pwynt mynediad i ddeall yr hyn sydd ei angen i gyflawni Sero Net yn GIG Cymru:

000 GIG Cymru - Cyflawni Sero Net yng Nghymru
 

Os hoffech wybod mwy, mae sawl modiwl e-ddysgu arall ar ESR hefyd:

  • 000 GIG Cymru - Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd
  • 000 Adeiladu GIG Sero Net
  • 000 Cynaliadwyedd Amgylcheddol o ran Gwella Ansawdd
  • 000 Rheoli a gwaredu gwastraff gofal iechyd

Rydym yn annog pob cydweithiwr i gwblhau modiwl sero net GIG Cymru ac yn croesawu eich diddordeb mewn Cynaliadwyedd yn AaGIC.


Os hoffech wybod mwy neu gymryd rhan mewn gwneud newid cynaliadwy yn y gweithle.


Cysylltwch â: HEIW.Planning&Performance@Wales.nhs.uk