Cyhoeddwyd 29/10/2023
Mae un o'r nyrsys cyntaf erioed i ymuno â'n rhaglen Cymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF) eisiau helpu i wrthdroi'r duedd y bydd eraill yn rhoi'r gorau i'w proffesiwn.
Mae'r rhaglen yma sy’n flwyddyn o hyd yn darparu hyfforddiant a phrofiad ymarferol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth glinigol i ddatblygu darpar arweinwyr clinigol y dyfodol ar gyfer GIG Cymru.
Dywedodd Rachel James (yn y llun uchod), sydd ar hyn o bryd yn ymarferydd arweiniol oncoleg acíwt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Mae hanner y gymrodoriaeth yn ddosbarth meistr mewn arweinyddiaeth, er mwyn datblygu’r arweinwyr disgleiriaf ein dyfodol, a bydd yr hanner arall yn cynnwys gweithio ar brosiect gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i edrych ar y model o gadw nyrsys ledled Cymru.
"Mae angen i mi adeiladu ar fy sgiliau arweinyddiaeth ac rwy'n credu mai dyma'r ffordd ddelfrydol i'w wneud - gweithio gyda gweithwyr proffesiynol tebyg i hyrwyddo rhywbeth. Mae'n bwysig iawn ceisio darganfod pam fod ein nyrsys yn gadael y proffesiwn a sut y gallwn eu cadw."
Mae'r penodiad wedi cyfiawnhau penderfyniad Rachel i newid gyrfa yn 2008 i ddod yn nyrs.
Dywedodd: "Fe ddes i i'r byd nyrsio'n eithaf hwyr. Roeddwn i'n 33 oed pan oeddwn i'n gymwys. Roeddwn i'n fferyllydd diwydiannol, ond dechreuais fy ngyrfa mewn nyrsio er mwyn teimlo awydd o wobr bersonol a dyna'r peth gorau wnes i erioed.
"Roeddwn i newydd ysgaru ac roedd gen i ddau o blant ifanc oedd yn dair a saith oed pan ddechreuais fy hyfforddiant. Roedd yn gyfnod anodd, ond rwy'n falch iawn fy mod wedi dyfalbarhau. Rwy'n mwynhau bod yn nyrs bob dydd."
Ar y dechrau, aeth Rachel i mewn i feddygaeth acíwt a gweithio yn yr Adran Argyfwng cyn mynd i oncoleg chwe blynedd yn ôl. Enillodd hefyd Wobr Prif Swyddog Nyrsio am Ragoriaeth y llynedd.
Dywedodd Ian Collings, Cyfarwyddwr Cymorth a Datblygiad Proffesiynol Meddygol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru "Rwy'n falch iawn bod Rachel yn un o ddwy nyrs sy'n ymuno â'n Cymrodoriaeth Hyfforddi Arweinyddiaeth Glinigol Cymru.
"Ers sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym wedi gweithio i ddatblygu'r rhaglen ymhellach, a oedd gynt ar gyfer meddygon mewn hyfforddiant, i fod yn gymrodoriaeth wirioneddol aml-broffesiynol.
"Yn ogystal â nyrsys a meddygon dan hyfforddiant, mae gennym fferyllwyr, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, optometryddion a gwyddonwyr gofal iechyd sy'n profi'r cyfle unigryw hwn.
"Mae effaith y mae’r gymrodoriaeth wedi cael yn syfrdanol, ac mae llawer o'n cymrodyr cyn-fyfyrwyr o ganlyniad wedi ymgymryd ag uwch rolau arwain yn y GIG. Edrychaf ymlaen at ehangu'r rhaglen ymhellach i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill."
Am fwy o wybodaeth am Gymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru Addysg a Gwella Iechyd Cymru, cliciwch yma.