Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o gyhoeddi bod ceisiadau ar agor nawr ar gyfer swyddi yn y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP) yng Nghymru ar gyfer 2025.
Wedi’i rhedeg gan Ysgol Genedlaethol Gwyddor Gofal Iechyd, mae’r Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP) yn rhaglen hyfforddi genedlaethol sy’n cyfuno dysgu academaidd ac ar sail gwaith ar gyfer graddedigion sydd am sicrhau rôl uwch-wyddonydd o fewn y GIG.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer swyddi hyfforddi yng Nghymru yn:
• Cael eu cyflogi ar gontract tymor penodol tair blynedd gan Fwrdd Iechyd neu Ymddiriedolaeth GIG Cymru
• Derbyn cyflog Band 6 (Agenda ar gyfer Newid)
• Cael eu ffioedd academaidd a ffioedd y rhaglen wedi’u hariannu’n llawn
• Gallu gwneud cais am fwrsari hyd at £2,000 ar gyfer anghenion hyfforddi ychwanegol
• Bod yn gymwys i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) fel Gwyddonydd Clinigol ar ôl cwblhau’r rhaglen.
Yng Nghymru, caiff y rhaglen, cyflog hyfforddeion a'r fwrsari eu hariannu i gyd gan AaGIC.
Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb feddu ar o leiaf radd anrhydedd (dosbarth cyntaf neu 2:1) mewn gwyddor bur neu gymhwysol, neu MSc neu PhD sy'n berthnasol i'r arbenigedd y maent yn gwneud cais amdano.
Gall pob unigolyn wneud cais am uchafswm o ddwy swydd STP yng Nghymru, a bydd ceisiadau’n cau ar 2 Mawrth 2025.
Dywedodd Dr Sarah Bant, Cyfarwyddwr Cyswllt Trawsnewid y Gweithlu ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd yn AaGIC:
“Rydym wrth ein bodd yn cefnogi'r rhaglen hyfforddi hanfodol hon sy'n cyfuno addysg brifysgol ag hyfforddiant lleol yn ein gwasanaethau ardderchog ledled Cymru. Os ydych chi'n ymrwymo i weithio yn GIG Cymru o fewn un o'n proffesiynau gwyddor gofal iechyd amrywiol, mae hwn yn ddechrau gwych i chi.”
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y STP yng Nghymru ar ein gwefan.
Swyddi STP yng Nghymru – ar agor ar gyfer ceisiadau
Defnyddiwch y dolenni isod i wneud cais am eich swydd(au) dymunol ar borth recriwtio GIG Cymru, Trac.
• Awdioleg
• Genomeg Canser
• Gwyddor Cardiaidd (yn agor ar 24/02/2025)
• Biocemeg Glinigol
• Genomeg Biowybodeg Glinigol
• Rheoli Risg a Llywodraethu Dyfais (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda)
• Rheoli Risg a Llywodraethu Dyfais (Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe)
• Peirianneg Adsefydlu
• Gwyddoniaeth Fferyllol Glinigol
• Cyfrifiadura Gwyddonol Clinigol
• Genomeg
• Histocydweddoldeb & Imiwnogeneteg
• Meddygaeth Niwclear
• Niwroffisioleg
• Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe
• Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
• Ffiseg Radiotherapi
• Gwyddor Anadlol a Chwsg
• Gwyddor Fasgwlaidd
Bydd ceisiadau ar gyfer y swyddi’n cau ar 2 Mawrth 2025.
Defnyddiwch y dolenni uchod i wneud cais am eich swydd(au) dymunol ar borth recriwtio GIG Cymru.