Neidio i'r prif gynnwy

Mae DFT WERO yn dychwelyd! Gwella cyfleoedd i hyfforddeion deintyddol a chryfhau'r gweithlu yng nghefn gwlad Cymru

Cyhoeddedig: 03/02/2025

Mae'n bleser gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gyhoeddi bod Cynnig Recriwtio Uwch Cymru (WERO) ar gyfer Hyfforddiant Sylfaen Deintyddol (DFT) yn dychwelyd yn 2025/6. Mae'r fenter hon yn parhau i fynd i'r afael â her swyddi hyfforddi sydd heb eu llenwi yng nghefn gwlad Cymru tra'n gwella mynediad at wasanaethau deintyddol hanfodol i gymunedau lleol.

Mae llawer o raddedigion deintyddol newydd yn tueddu i ddewis ardaloedd trefol ar gyfer eu blwyddyn DFT, gan adael practisau gwledig heb ddigon o staff ,sy’n ei chael hi'n anodd ateb y galw lleol. Yn 2021/22, roedd 6% o swyddi gwag DFT gwledig heb eu llenwi, a gafodd effaith sylweddol ar wasanaethau deintyddol y GIG yn y rhanbarthau hynny. Mewn ymateb, lansiodd AaGIC gynllun WERO DFT yn 2022, gan gynnig cymhellion i annog hyfforddeion i gymryd lleoliadau mewn practisau gwledig ar draws Gorllewin, Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae cynllun WERO yn cynnig pecyn cymorth cynhwysfawr i ddenu a chadw hyfforddeion deintyddol medrus yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys:


• £7,000 o grant byw yng nghefn gwlad
• Rhaglen diwrnod astudio wythnosol sy’n gynhwysfawr
• Talu ffioedd arholiad aelodaeth coleg
• Cyllideb astudio o £600 ar gyfer paratoi ar gyfer arholiadau
• Mynediad i adnoddau dysgu ar-lein rhad ac am ddim
• Cefnogaeth lles

 

Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol, o ran cyrraedd targedau recriwtio a darparu profiadau o ansawdd uchel i hyfforddeion.

Yng ngharfan 2023/4, rhoddodd 100% o’r hyfforddeion sgôr gadarnhaol i’w lleoliadau, gydag 80% yn rhoi sgôr perffaith o 5/5. Roedd yr hyfforddeion yn gwerthfawrogi'r broses recriwtio dryloyw, a oedd yn caniatáu iddynt sicrhau lleoliadau a oedd yn cyd-fynd â'u nodau personol a phroffesiynol, cyn recriwtio'n genedlaethol. Yn ogystal, dewisodd 90% o hyfforddeion aros yng Nghymru ar ôl eu blwyddyn DFT, gan ddangos effaith hirdymor y cynllun ar adeiladu gweithlu cynaliadwy.

Mae ymateb gan hyfforddeion DFT WERO 2024/5 yn amlygu llwyddiant y rhaglen:

  • “Fe wnes i gais i gynllun DFT WERO oherwydd bod un o fy nhiwtoriaid yn Lerpwl wedi ei argymell i mi. Rydw i mor oherwydd rydw i wedi dysgu cymaint… rydw i wedi ennill llawer o brofiad clinigol a dod yn ymarferwr mwy medrus. Rydyn ni wedi cymryd achosion anoddach, fel endodonteg cymhleth neu echdyniadau llawfeddygol, oherwydd nid yw gofal eilaidd mor hygyrch mewn ardaloedd gwledig.”
  • “Tîm gwych a chyfeillgar. Roedd y practis yn fodern, wedi'i gyfarparu'n dda, ac os oeddwn i angen unrhyw beth gwahanol, roedden nhw'n fwy na pharod i'w archebu. Roedd fy Ngoruchwyliwr Addysgol yn wych, bob amser yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau a theilwra sesiynau tiwtorial i weddu i'm hanghenion."
  • “Tîm gwych i weithio gyda nhw ac yn hynod gefnogol! Rydw i wedi cael llawer o hyfforddiant, rhyddid i ddysgu, a’r cyfle i fagu hyder wrth drin cleifion.”

Mae cynllun WERO yn cynnig mwy na hyfforddiant clinigol—mae hefyd yn galluogi hyfforddeion i archwilio tirweddau hardd a ffordd o fyw cefn gwlad Cymru, cyfle unigryw na fyddant o bosibl yn dod o hyd iddo yn unman arall. Dywedodd William Howell, perchennog Practis Deintyddol Aberteifi, practis sy’n cymryd rhan: “Mae Aberteifi yn cynnig cymaint, o ganol tref ffyniannus i’w thraethau hardd a’i chefn gwlad. Byddwn yn gwneud popeth i wneud i hyfforddeion deimlo'n gartrefol ac rwy'n siŵr y byddant yn cwympo mewn cariad â'r ardal yn union fel yr ydym ni wedi.”

Bydd menter WERO yn agor ar 3 Chwefror 2025 i raddedigion newydd o’r DU sydd wedi hyfforddi yng Nghymru, sy’n hanu o Gymru neu sydd â chysylltiad â Chymru eisoes.
Sylwch nad yw'r swyddi hyn yn gymwys i gofrestru dros dro gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
 

I gael gwybod mwy, ewch i wefan AaGIC.