Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi ariannu Cwrs Addysgu Cyrff Marw Ffres-wedi’u Rhewi newydd. Gan weithio gydag arweinwyr llawfeddygol a Chyfarwyddwyr Rhaglen Hyfforddi, datblygodd dirprwy Bennaeth Ysgol Llawfeddygaeth Cymru, Miss Sarah Hemington-Gorse yr hyfforddiant i roi'r wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen ar hyfforddeion llawfeddygol uwch yn y theatr llawdriniaethau.
Dysgwyd anatomeg a thechnegau llawfeddygol y tu allan i'r theatr lawdriniaeth i dros 40 o hyfforddeion o amrywiaeth o arbenigeddau gan gynnwys Llawfeddygaeth Gardiothorasig, Niwrolawdriniaeth a Llawfeddygaeth Fasgwlaidd. Yn dilyn y cwrs tridiau, rhagwelir y byddant yn gwneud cynnydd yn gyflymach yn amgylchedd y theatr ac yn cynyddu'r cyflymder y byddant yn ennill sgiliau ymarferol. Bydd yr hyfforddiant ymarferol yn ei dro yn golygu y bydd yr hyfforddeion yn gallu defnyddio eu sgiliau yn fwy hyderus a chymwys ar gleifion yn eu meysydd arbenigedd.
Roedd yr adborth gan y cynadleddwyr yn 100% cadarnhaol a chroesawyd y cyfle i berfformio gweithdrefnau mewn amgylchedd diogel, di-straen gyda chefnogaeth gan ymgynghorwyr wrth law.
Dywedodd Dr Caroline Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Eilaidd, yn AaGIC “Mae’r cwrs wedi bod yn gyfle gwych i hyfforddeion a hyfforddwyr ar draws yr arbenigeddau llawfeddygol gydweithio y tu allan i’r amgylchedd llawdriniaeth. Rydym yn falch iawn o glywed yr adborth cadarnhaol a'r diddordeb a gynhyrchwyd. Mae cyrsiau arloesol fel y rhain yn annog Meddygon i hyfforddi ac aros yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar i Sarah a’r holl lawfeddygon am ymroi eu hamser i gyflawni hyn.”
Dywedodd Sarah Hemington-Gorse a drefnodd yr hyfforddiant gyda chymorth yr Academi Meddygon, “Mae pwysau amser yn y theatrau llawdriniaethau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi effeithio ar amseroedd llawdriniaethau hyfforddeion. Caniataodd y cwrs inni fynd i'r afael â llawer o'r bylchau hyfforddi a rhoddodd amser i'r hyfforddeion ar draws llawer o'r ysgolion llawfeddygol feistroli technegau a harneisio eu sgiliau mewn amgylchedd efelychu diogel.
“Bydd y sgiliau hyn yn cael eu cario ymlaen i’r theatr llawdriniaethau ac yn caniatáu cynnydd cyflymach i’r rhai sy’n cymryd rhan. Oherwydd cyllid AaGIC, ni yw’r unig ddeoniaeth hyfforddi yn y DU sydd wedi gallu cynnig cwrs cadaverig amlddisgyblaethol yn rhad ac am ddim i’n hyfforddeion, mae’n sicr wedi ennyn llawer o ddiddordeb gan hyfforddeion ar draws y ffiniau ac mae ganddo’r potensial i fod yn bwynt gwerthu unigryw ar gyfer annog pobl i ystyried hyfforddiant yng Nghymru yn y dyfodol. Y gobaith yw y byddwn yn gallu cynnig hyn yn flynyddol i’n hyfforddeion.”