Neidio i'r prif gynnwy

Lansio adnodd ar-lein i gefnogi cynllunio gweithlu ar gyfer y Gymraeg

Published 10/09/24

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio adnodd hyfforddi newydd i gefnogi cynllunio gweithlu ar gyfer y Gymraeg ar draws GIG Cymru.

Mae’n rhan o’u gwaith i gefnogi fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer hybu’r Gymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, ‘Mwy na Geiriau’.

Ar gael ar blatfform dysgu digidol AaGIC, Y Ty Dysgu, mae’r adnodd dysgu ar-lein yn cynnwys fideo byr i esbonio pam mae cynllunio gweithlu ar gyfer y Gymraeg yn bwysig i sicrhau gofal o safon i gleifion. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau a dolenni i gyrsiau Cymraeg i unrhyw un sy'n dymuno dysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg.    

Mae’r hyfforddiant wedi’i anelu at unrhyw un sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan eu gweithlu’r sgiliau cywir i ddiwallu anghenion cleifion a defnyddwyr gwasanaeth am y Gymraeg.  Mae'r hyfforddiant hefyd yn cefnogi dysgu, datblygu a thwf parhaus.  

Mae pobl Cymru yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal pan fyddant ar eu mwyaf agored i niwed. Felly, mae sicrhau y gallent wneud hynny yn eu hiaith ddewisol neu frodorol, yn rhan annatod o iechyd a gofal er mwyn sicrhau canlyniadau clinigol gwell i gleifion.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio Gweithlu Strategol yn AaGIC, Clem Price:

“Mae’r adnodd dysgu ar-lein wedi’i gynllunio i gefnogi rheolwyr i asesu a chynllunio ar gyfer lefel y sgiliau Cymraeg sydd eu hangen i fodloni gofynion eu cleifion lleol. Mae’n darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt, ynghyd ag enghreifftiau ymarferol, mewn un man hygyrch.”

Ychwanegodd Rheolwr y Gymraeg yn AaGIC, Huw Owen: “Bydd gweithio drwy’r adnodd hwn yn rhoi seiliau cadarn iawn i chi ar gyfer ateb gofynion Safon y Gymraeg 110, sy’n gofyn i gyrff Iechyd greu cynllun sy’n dangos sut y byddant yn mynd i’r afael ag anghenion iaith cleifion mewn sefyllfaoedd clinigol.”

Cyrchwch yr adnodd hyfforddi yma: https://ytydysgu.heiw.wales/courses/161ac4b1-0462-4922-b95f-65fc2093a68f