Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddi argyfwng meddygol ar gyfer hyfforddeion craidd deintyddol

Cyhoeddwyd 20/11/2023

Cynhaliodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ddiwrnod hyfforddi efelychu 'Argyfwng Meddygol' ar gyfer hyfforddeion craidd deintyddol, ym Mangor ar 17 Tachwedd.

Credir mai'r hyfforddiant hwn yw'r cyntaf o'i fath a gynigir yng Ngogledd Cymru ar gyfer y rhaglen Hyfforddiant Craidd Deintyddol (DCT). Gwerthodd pob tocyn yn gyflym, gan ddenu cyfranogwyr o bob rhan o Gymru i’r lleoedd ychwanegol ar gael i ddeintyddion fel cwrs datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). 

Bu Tîm Addysg Ddeintyddol Ôl-raddedig Gogledd Cymru AaGIC yn gweithio mewn partneriaeth â Suman Mitra, Deon Cyswllt Efelychu yn AaGIC. Gyda'i gilydd, trefnwyd yr hyfforddiant yn yr ystafell efelychu yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant DCT1 yng Ngogledd Cymru, Katherine Mills,

“Roedd y cwrs hwn yn ymgorffori diffiniad Cymru Gyfan o addysg yn seiliedig ar efelychu. Roedd yn cynorthwyo datblygiad trwy ddysgu trwy brofiad trwy greu ac atgynhyrchu amodau a oedd yn debyg i sefyllfaoedd bywyd go iawn. Roedd yn darparu amgylchedd diogel lle gallai cyfranogwyr ddysgu o'u camgymeriadau heb unrhyw berygl i gleifion. Roedd hyn yn galluogi unigolion i ddadansoddi ac ymateb i sefyllfaoedd realistig, wrth ddatblygu neu wella eu gwybodaeth, eu sgiliau, eu hymddygiad a’u hagweddau (Hawker et al. 2022). Roedd y tîm yng Ngogledd Cymru yn gyffrous iawn i allu darparu addysg i ddeintyddion drwy’r dull cyffrous hwn.”

Mae'r cwrs hyfforddi, sydd wedi'i anelu'n bennaf at ddeintyddion sy'n hyfforddi mewn amgylcheddau llawfeddygaeth y geg a'r wyneb (OMFS), yn helpu deintyddion i:

  • adnabod a chychwyn gofal cychwynnol priodol mewn cleifion sâl tra'n uwchgyfeirio’n briodol
  • dilyn sgiliau asesu A i E
  • defnyddio ‘Sefyllfa, Cefndir, Asesiad ac Argymhelliad (SBARs ) fel dull o uwchgyfeirio
  • deall rheolaeth gychwynnol cymhlethdodau cyffredin cleifion ar ôl llawdriniaeth
  • deall rheolaeth gychwynnol argyfyngau OMFS cyffredin. 

Dyfarnwyd 7.5 o oriau DPP uwch gwiriadwy i bob cyfranogwr ac roedd yr hyfforddiant yn bodloni pedwar canlyniad datblygu’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol:

  • arweinyddiaeth
  • cyfathrebu
  • sgiliau clinigol
  • sgiliau proffesiynol a moesegol

Adam Holden oedd y siaradwr yn ystod y cwrs hyfforddi. Mae Adam yn cynnal cyrsiau efelychu tebyg gan ddefnyddio cyfleusterau Efelychu HiFi yn Lloegr felly gwerthfawrogwyd y cyfle i rannu ei arbenigedd yn fawr.

Mae’r timau yn AaGIC a Phrifysgol Bangor yn estyn diolch mawr i Adam ac i’r holl gyfranogwyr a fynychodd.