Neidio i'r prif gynnwy

Deall y Fframwaith Gallu Digidol: Gweithio gydag eraill

Mae’r erthygl hon yw’r ail mewn cyfres chwe rhan sy’n archwilio’r Fframwaith Gallu Digidol (DCF). Mae’r Fframwaith, a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn cynnwys chwe pharth ac offeryn hunanwerthuso. Mae'r fframwaith yn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddeall pwysigrwydd technoleg ddigidol a nodi meysydd o ddatblygiad digidol.

Mae datblygiad digidol mewn gofal iechyd yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer twf personol mewn tirwedd ddigidol esblygol ond hefyd ar gyfer gwella gofal cleifion. Wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu, mae'n hanfodol bod gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yr hyder a'r sgiliau i'w hintegreiddio'n effeithiol yn eu hymarfer.

Mae'r gyfres hon yn cynnig archwiliad manwl o bob parth yn y Fframwaith, gan amlygu eu pwysigrwydd a'u gwerth. Yn flaenorol, talwyd sylw at y parth Dysgu ac arweinyddiaeth ac, yn yr erthygl hon, mae'r ffocws ar Weithio gydag eraill.

Mae’r parth Gweithio gydag eraill yn eistedd ochr yn ochr â thri is-faes:

  • Cyfathrebu
  • Cydweithio
  • Cyfranogiad

Mae’r parth Gweithio gydag eraill yn pwysleisio pwysigrwydd gallu cyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio technoleg ddigidol, yn ogystal â chydweithio ag eraill ar-lein ac adeiladu rhwydweithiau digidol. Mae'n bwysig cydnabod bod technoleg yn newid y ffordd rydym yn gweithio a sut rydym yn rhyngweithio ag eraill.  Er enghraifft, gall cyfarfod trwy Teams yn hytrach nag wyneb yn wyneb wella effeithlonrwydd gweithgorau Cymru Gyfan.


Cyfathrebu
Mae'r is-faes cyfathrebu yn pwysleisio'r gallu i ddefnyddio technolegau amrywiol ar gyfer cyfathrebu effeithiol. Mae hyn yn amrywio o offer sylfaenol fel ffonau clyfar ar gyfer galwadau a negeseuon testun i lwyfannau mwy datblygedig fel Microsoft Teams®. Sgil allweddol wrth adeiladu perthnasoedd cryf yw addasu eich arddull cyfathrebu i weddu i fformatau digidol gwahanol. Mae’n hanfodol addasu’r dull cyfathrebu digidol yn seiliedig ar anghenion yr unigolion sy’n cael eu rhyngweithio â nhw a diben y rhyngweithio. Cefnogir y gallu i addasu hwn gan ddealltwriaeth o'r risgiau a'r manteision sy'n gysylltiedig â defnyddio technolegau cyfathrebu digidol.


Cydweithio
Mae’r is-faes cydweithio yn canolbwyntio ar sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar-lein. Gyda gweithio o bell ar gynnydd a'r gallu i gydweithio ledled Cymru, mae'n bwysig gwybod pa dechnolegau sy'n darparu'r profiad a'r ymarferoldeb gorau ar gyfer cyfathrebu effeithiol. Ochr yn ochr â hyn, nid yw cydweithio bellach yn golygu bod pawb yn gweithio ar yr un dasg ar yr un pryd, mewn un lle.

Mae datblygiadau mewn cynhyrchion fel Microsoft Office 365® yn galluogi timau i rannu dogfennau yn ddigidol a chydweithio ar ddogfennau byw mewn amser real. Gyda'r swyddogaeth hon, mae'n hanfodol deall sut i addasu cyfathrebu, agweddau ac ymddygiad i weithio'n effeithiol gyda'i gilydd. Mae hefyd yn bwysig deall pa dechnolegau all helpu i ddileu rhwystrau a sicrhau cyfathrebu teg.


Cyfranogiad
Mae’r is-faes cyfranogiad yn amlygu pwysigrwydd ymgysylltu’n weithredol ag eraill fel y ffordd orau o gydweithio yn yr oes ddigidol. Mae hyn yn golygu defnyddio technoleg i adeiladu cysylltiadau a chydweithio ar-lein i gael canlyniadau cadarnhaol bywyd go iawn. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys yn syml, archebu gwyliau blynyddol ar-lein i ganiatáu gwyliau personol gyda theulu, i adeiladu rhwydweithiau proffesiynol trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel LinkedIn®. Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan hanfodol mewn bywyd bob dydd, a gallu allweddol yw'r parodrwydd i ymgysylltu â'r byd digidol hwn sy'n esblygu.


Eich cam nesaf
Gall dechrau datblygu eich sgiliau cyfathrebu ar-lein fod yn frawychus.

Cam cyntaf gwych yw cwblhau offeryn hunanasesu’r Fframwaith Gallu Digidol (DCF).

Bydd yr offeryn yn eich annog i ystyried eich sgiliau digidol presennol ac mae yna hefyd adnoddau cryno ar gael i helpu i roi hwb i'ch datblygiad.

Mae'n cymryd tua awr i gwblhau'r Fframwaith, a gallech gweithio drwyddo ar eich cyflymder eich hun, ar amser sy'n gyfleus i chi. Bydd eich cynnydd yn cael ei arbed ar hyd y ffordd, felly peidiwch â phoeni os bydd rhywun yn torri ar eich traws.

Mae llawer o broffesiynau yn cydnabod y gweithgaredd hwn trwy ddarparu awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus ardystiedig (DPP) i'w gwblhau.

Ewch i wefan AaGIC i ddysgu mwy.