Neidio i'r prif gynnwy

Deall proses Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) AaGIC

Published 19/09/24

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi creu adnodd ar-lein i helpu i gynyddu dealltwriaeth o’r broses ddatblygu y tu ôl i Gynllun Tymor Canolig Integredig  AaGIC.

Mae pob Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth ac Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru yn cynhyrchu Cynllun Tymor Canolig Integredig.

Mae IMTP yn disgrifio’r blaenoriaethau a’r gweithgareddau arfaethedig y bydd y sefydliad yn ymgymryd â nhw i gefnogi, datblygu a gwella gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru dros gyfnod o dair blynedd.

Mae IMTP AaGIC yn nodi'n benodol y blaenoriaethau a'r camau gweithredu sydd eu hangen i gefnogi, denu, cadw a datblygu gweithlu GIG Cymru. Mae pob IMTP yn adeiladu ar gynllun y flwyddyn flaenorol i gefnogi newid ar draws y system i fynd i'r afael â materion gweithlu.

Mae’r adnodd ategol newydd hwn yn egluro sut mae gan y Cynllun rôl sylfaenol i’w chwarae o ran datblygu gweithlu medrus a chynaliadwy GIG Cymru sy’n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth.

Mae'r ddogfen ryngweithiol yn cynnwys trosolwg byr a hawdd ei ddeall o'r IMTP,sy’n cynnwys:

  • Beth yw’r cynllun?
  • sut a pham y caiff ei gynhyrchu, a chan bwy
  • Y risgiau cyffredin i gyflawni IMTP AaGIC
  • Sut gall rhanddeiliaid gyfrannu at y broses o’i chreu

Cyrchwch yr adnodd yma: Deall proses Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) AaGIC