Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad AaGIC ynghylch hyfforddiant nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd

29/01/25

Dywedodd Ian Mathieson, Cyfarwyddwr Strategaeth Thrawsnewid i Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y sefydliad sy'n gyfrifol am gomisiynu hyfforddiant nyrsys yng Nghymru: 

"Rydym wedi cael gwybod gan Brifysgol Caerdydd eu bod wedi lansio ymgynghoriad ar ddyfodol eu darpariaeth addysg nyrsio, yn benodol eu rhaglenni oedolion, plant ac iechyd meddwl. 

Ein blaenoriaeth yw parhau i gynnal addysg o ansawdd uchel ar gyfer nyrsys yn ardal Caerdydd, nawr ac yn y dyfodol.

Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr holl fyfyrwyr nyrsio presennol yn cael eu cefnogi'n llawn trwy eu taith addysgol a dechrau eu gyrfa nyrsio. Hoffem hefyd roi sicrhad i fyfyrwyr presennol a'r rhai sy'n cofrestru ym mis Medi 2025 ym Mhrifysgol Caerdydd y bydd eu hyfforddiant yn parhau tan iddynt radio, a chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.