Nyrsio yw'r gweithlu mwyaf o fewn y GIG yng Nghymru. Mae ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) wedi cydnabod prinder yn y dyfodol yn y proffesiwn hwn.
Mae'r heriau sy'n wynebu'r proffesiwn nyrsio yn sylweddol. Mae morâl mewn nyrsio wedi dirywio, gydag aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn pleidleisio dros weithredu diwydiannol am y tro cyntaf. Mae nifer yr oriau ychwanegol mae nyrsys yn gweithio yn uchel. Mae swyddi gwag nyrsys tua 2900, ac nid yw recriwtio a chadw nyrsys yn cadw i fyny gyda'r cynnydd mawr yn y galw a welsom am ein gwasanaethau GIG.
Mae nyrsys yn cael eu cyflogi ym mhob rhan o system y GIG, a heb weithlu nyrsio cynaliadwy, ni fydd y GIG yn gallu darparu gwasanaethau i bobl Cymru.
Felly, 'dan ni'n datblygu cynllun y gweithlu nyrsio i helpu cyflogwyr nyrsio i recriwtio, hyfforddi ac ailhyfforddi nyrsys i ddarparu digon yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
Bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu gyda mewnbwn nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Os oes gennych unrhyw adborth neu ymholiadau, cysylltwch â'r tîm drwy HEIW.nursingworkforceplan@wales.nhs.uk.
Mae'r cynllun wedi ei rannu'n dri cham.
Mae cam un wedi edrych ar feysydd blaenoriaeth sydd wedi bod:
Cam dau
Cam tri
Cadwch lygad allan am ddiweddariadau ar ein tudalen we cynllun gweithlu nyrsio.