Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau Cynrychiolydd Lleyg nawr ar agor

Rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o gynrychiolwyr lleyg i gefnogi rheoli ansawdd hyfforddiant meddygol a deintyddol ac i sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei glywed.

Mae hwn yn gyfle gwych os ydych:

  • ddim yn gweithio ym maes gofal iechyd
  • gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • eisiau cefnogi hyfforddi gweithlu ein GIG yn y dyfodol.

Mae ceisiadau ar agor tan 18 Hydref 2024.

Fel Cynrychiolydd Lleyg byddwch yn:

  • cefnogi rheoli ansawdd hyfforddiant meddygol a deintyddol
  • sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei glywed
  • sicrhau allanoldeb prosesau wrth hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • ymwneud â recriwtio meddygon a deintyddion i raglenni hyfforddi, a chyfrannu at y timau sy'n gyfrifol am asesu eu cynnydd

I fod yn gymwys i wneud cais, ni ddylai fod gennych gefndir clinigol yn y proffesiwn iechyd nac yn gweithio i'r GIG. Mae'r swydd hon yn cynnig tua deg diwrnod gwaith y flwyddyn.

Ewch i dudalen we AaGIC am ragor o wybodaeth.