Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cyhoeddi hyfforddiant ac asesiadau ar gyfer gwasanaeth UTI newydd a fydd yn cael ei lansio’n ar draws fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru o fis Mehefin 2024.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i fferyllwyr cymunedol i asesu a thrin cleifion sy'n dangos symptomau UTI. Mae hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru i fferyllfeydd fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer anhwylderau cyffredin.
Ym mis Hydref 2021, cafodd y Gwasanaeth UTI ei dreialu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd). Dangosodd y gwasanaeth allu fferylliaeth gymunedol i gefnogi practisau meddygon teulu, yn ogystal â darparwyr gofal iechyd eraill, gyda:
• 91% y byddent wedi chwilio am gyngor gan leoliad gofal iechyd arall pe na bai'r gwasanaeth ar gael gan y fferyllfa.
• 98% o gleifion yn dweud y byddent yn ymweld â fferyllfa gymunedol y tro nesaf y bydd ganddynt symptomau UTI, gan fynegi eu hyder yn y gwasanaeth.
Mae llwyddiant y peilot hwn, a oedd hefyd yn brosiect enghreifftiol Bevan, wedi cyfrannu at ddatblygiad y Gwasanaeth UTI cenedlaethol, a fydd yn cael ei ddarparu cyn bo hir fel rhan o’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin drwy’r platfform Dewis Fferyllfa.