Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi nodi wyth blaenoriaeth strategol newydd yn ei Gynllun Tymor Canolig Integredig 2025–26. Mae'r blaenoriaethau hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth AaGIC i adeiladu gweithlu medrus a chynaliadwy i ddarparu gwell canlyniadau gofal ac iechyd i bobl yng Nghymru.
Mae Addysg a Gwella Cymru yn cydnabod pwysigrwydd addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel i bob dysgwr, a'r effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael ar allu'r gweithlu. Mae hyn yn amlwg yn nhrydydd blaenoriaeth y cynllun; addysg a hyfforddiant rhagorol.
Mae meysydd allweddol blaenoriaeth tri yn cynnwys:
• Moderneiddio addysg gofal iechyd
Mae AaGIC wedi ymrwymo i foderneiddio addysg a hyfforddiant trwy strategaeth ystwyth sy'n canolbwyntio ar y dyfodol. Mae'r dull hwn yn cefnogi datblygiad gweithlu cynaliadwy drwy sicrhau bod dysgwyr yn derbyn addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n cyd-fynd â thechnoleg esblygol a gofynion deddfwriaethol. Yn y pen draw, mae hyn yn annog datblygiad gweithlu medrus iawn ac yn arwain at ofal gwell i gleifion.
• Gwella hyfforddiant clinigol
Bydd AaGIC yn parhau i ddatblygu'r Model Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol ac yn cyflwyno Model Hyfforddiant Carlam Sgiliau Clinigol newydd GIG Cymru. Nod hyn yw cyflymu hyfforddiant effeithiol i staff mewn sgiliau clinigol allweddol trwy ddull strwythuredig, cyson ac o ansawdd uchel. Bydd hyn yn cefnogi mynediad amserol at ofal a thriniaeth o ansawdd uchel yn gyson i gleifion. Bydd cam un o'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar endosgopi.
• Cynyddu cyfleoedd mewn gyrfaoedd iechyd
Bydd AaGIC yn parhau i weithio gyda phartneriaid i greu llwybrau mwy cynhwysol i yrfaoedd gofal iechyd, gan gynnwys prentisiaethau ac archwilio sut y gellid datblygu prentisiaethau gradd yng Nghymru.
• Offer digidol gwell ar gyfer staff y GIG
Bydd AaGIC yn parhau i gyflwyno CODI, system newydd i gefnogi rheoli gweithwyr proffesiynol mewn hyfforddiant ôl-raddedig. Bydd AaGIC hefyd yn parhau i gyflwyno Y Ty Dysgu, platfform dysgu sy'n cynnig mynediad hyblyg i staff gofal iechyd at hyfforddiant a datblygiad.
• Cefnogi dysgu gydol oes
Bydd Strategaeth Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) newydd yn cael ei lansio i helpu staff y GIG i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad sgiliau drwy gydol eu gyrfaoedd.
Ffocws pwysig o flaenoriaeth tri yw gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu Strategaeth Addysg ar gyfer GIG Cymru – y tro cyntaf i Gymru wneud hynny. Bydd hyn yn helpu i lunio sut mae'r gweithlu'n cael ei addysgu, ei hyfforddi a'i gefnogi, gan sicrhau bod gan wasanaethau ledled Cymru'r bobl fedrus sydd eu hangen arnynt. Bydd yn llywio penderfyniadau comisiynu, yn sbarduno gwelliannau ar draws y system ac yn cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol. Bydd y strategaeth yn cefnogi addasu i dechnoleg newydd, anghenion y gweithlu, a disgwyliadau sy'n newid. Y canlyniad fydd system fwy hyblyg a chynhwysol gyda hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion cleifion a gweithlu'r GIG.
Ian Mathieson — Cyfarwyddwr Strategaeth Addysg a Thrawsnewid:
“Mae addysg a hyfforddiant rhagorol yn flaenoriaeth allweddol i AaGIC. Mae ein gweithlu yn haeddu hyfforddiant o safon sy'n defnyddio'r modelau a'r technolegau addysg o'r ansawdd uchaf i hybu twf personol a darparu gwasanaethau cleifion o safon uchel. Bydd ein dull o weithredu yn cael ei amlinellu yn y Strategaeth Addysg sydd ar ddod. Rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol addysg a hyfforddiant ac yn croesawu adborth bob amser i gefnogi ein gwelliant parhaus”.
Ewch i wefan AaGIC i ddysgu mwy am y Cynllun Tymor Canolig Integredig 2025–26.