Gweithiwr iechyd proffesiynol yw bydwraig sydd wedi'i hyfforddi i gynorthwyo merched drwy feichiogrwydd, esgoriad (genedigaeth) a chyfnod ôl-enedigol cynnar.
Mae bydwreigiaeth yn ddewis gyrfa poblogaidd sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol a gwerthfawr. Mae’n ofynnol bod gennych ddiddordeb mewn iechyd a lles merched. Hefyd, mae angen y gallu arnoch i ymdopi â chyfrifoldeb sy’n dwysáu yn sgil sefyllfaoedd heriol.
Mae’r nodweddion personol sy'n addas ar gyfer yr yrfa hon yn cynnwys:
Y fydwraig yw'r gweithiwr proffesiynol arweiniol yn achos genedigaethau arferol merched beichiog. Mae bydwragedd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr obstetreg a phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yn achos beichiogrwydd sy’n fwy cymhleth ei natur. Gall hyn gynnwys cymhlethdodau corfforol, cymdeithasol a seicolegol.
Mae bydwragedd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i ferched a'u teuluoedd er mwyn cefnogi dewisiadau deallus. Mae dyletswyddau nodweddiadol yn cynnwys:
Mae bydwragedd yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys yng nghartrefi merched, mewn clinigau iechyd lleol, canolfannau geni ac ysbytai.
Bydd cyflog cychwynnol bydwraig sydd newydd gymhwyso ar raddfa band 5 a bydd yn codi ar yr amod bod cymwyseddau preceptoriaeth yn cael eu cyflawni. Gweler ein hadran Cyflogau a Buddion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae yna lawer o gyfleoedd i gamu ymlaen mewn gyrfa i arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb, er enghraifft camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl amenedigol. Mae rhai bydwragedd yn symud ymlaen i rolau arweinyddiaeth glinigol mewn canolfannau geni, timau cymunedol ac ar wardiau geni. Mae cyfran lai o fydwragedd yn symud i swyddi rheolaethol, gan gynnwys rolau fel Pennaeth Bydwreigiaeth ar gyfer Bwrdd Iechyd. Mae'r rhan fwyaf o Fyrddau Iechyd yn cynnwys rolau Bydwragedd Ymgynghorol yn eu sefydliadau.
Oes angen gradd arna i? |
Oes, os ydych am weithio i’r GIG bydd angen i chi gwblhau cwrs wedi ei gymeradwyo gan Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). |
Ble alla i gael hyfforddiant yng Nghymru? |
|
A oes cyllid ar gael? |
Oes, i gael rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a'ch cywmhwysedd i'w dderbyn, ymwelwch â’r Gwasanaeth Gwobreuo Myfyrwyr. |
A oes cyfleoedd ôl-radd i’w cael? |
Mae yna lawer o gyfleoedd ôl-raddedig i ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau a chefnogi dilyniant eich gyrfa. Mae enghreifftiau'n cynnwys cwrs Archwiliadau Babanod Newydd-anedig, Cynnal Bywyd Uwch mewn Obstetreg a llawer o lwybrau i astudio ar lefel meistr neu ddoethuriaeth. |
Sut mae ennill profiad? |
Nid yw'r rhan fwyaf o ysbytai yn cynnig profiadau seiliedig ar waith mewn adrannau mamolaeth. Gallwch wneud cais i dreulio amser gyda bydwraig i drafod ei rôl ac mae rhai grwpiau cymorth a phrosiectau cymunedol yn cynnig cyswllt â merched a babanod. |
Sut mae gwneud cais am swydd? |
Mae pob swydd wag ar gyfer GIG Cymru yn cael ei hysbysebu ar Swyddi'r GIG. Ewch i’n hadran Waith i gael rhagor o wybodaeth. |