Mae Meddyg yn rhywun sy’n cynnal neu’n adfer iechyd pobl boed hynny’n iechyd corfforol neu feddyliol, trwy ymarfer meddygaeth. Bydd ef neu hi yn rhoi diagnosis o afiechydon, anhwylderau, anafiadau, poen neu gyflyrau eraill, ac yn eu trin. Maent yn canolbwyntio ar y claf, ac yn hyrwyddo, cynnal neu adfer iechyd trwy astudio, diagnosio a thrin afiechydon, anafiadau a namau corfforol a meddyliol eraill.
Mae amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa i feddygon ar ôl ymgymhwyso, o weithio gyda chleifion mewn nifer o feysydd arbenigol i weithio mewn labordai a gwneud ymchwil.
Mae’n rhaid i feddygon fod â:
Mae gwaith Meddygon yn amrywio’n fawr gan ddibynnu ar yr arbenigedd, ond fel arfer maent yn gwneud y canlynol:
Gall Meddygon weithio mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys:
Ewch i’n hadran Cyflog a Buddion am ragor o wybodaeth.
Unwaith ichi ymgymhwyso ac ennill ychydig o brofiad clinigol, mae nifer o ddewisiadau hyfforddiant ar gael, gan gynnwys:
Oes angen gradd arna i? |
Oes. Os ydych chi am weithio fel meddyg, bydd gofyn ichi gwblhau cwrs sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. |
Ymhle alla i hyfforddi yng Nghymru? |
Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe |
Oes cyllid ar gael? |
Oes. Am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a’ch hawl iddo, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr. |
Sut mae ennill profiad? |
I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith. |
Sut y galla i ymgeisio am swydd? | Mae swyddi gwag yn GIG Cymru yn cael eu hysbysebu ar wefan NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith am ragor o wybodaeth. |