Mae'r swyddi gwag hyn yn agored i ymgynghorwyr sydd ar hyn o bryd yn gweithio i'r GIG yng Nghymru ar gytundeb parhaol o fewn arbenigedd. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael profiad o addysgu mewn addysg uwch. Mae'r swyddi gwag yn drefniadau sesiynol (mae'r lwfans yn amrywio ar draws arbenigeddau ac yn cael ei nodi yn y swydd ddisgrifiad). Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen i chi drafod yr ymrwymiad amser yn eich cynllun swydd gyda'ch Cyfarwyddwr Clinigol.