Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun gweithlu deintyddol strategol

Mae’r Cynllun Gweithlu Deintyddol Strategol wedi’i ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru mewn partneriaeth â’r rhaglen strategol ar gyfer gofal sylfaenol, gweithwyr deintyddol proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol. Caiff ei lywio gan y camau gweithredu yn ymateb gwasanaethau iechyd y geg a deintyddol i 'Cymru Iachach'. Mae'n gydymaith i'r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol ac mae llawer o'r camau gweithredu yn deillio o'r ddau gynllun.

Bydd y cynllun yn llywio atebion cynaliadwy ar gyfer gweithlu deintyddol y dyfodol yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar Wasanaethau Deintyddol Cyffredinol, ond bydd y camau gweithredu a’r argymhellion yn cyfrannu at ac yn gwella’r ffordd yr ydym yn datblygu, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi’r gweithlu deintyddol ar draws y system gyfan.

Cyflawni'r Cynllun

Er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni'n effeithiol, bydd angen i'r holl randdeiliaid gydweithio. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu gweithlu deintyddol cynaliadwy sy'n diwallu anghenion y boblogaeth ac yn darparu mynediad teg a gofal o ansawdd uchel.

Bydd y camau gweithredu yn cael eu blaenoriaethu gyda rhai camau yn cael eu gweithredu ar unwaith yn 2024/25. Bydd y camau gweithredu sy'n weddill yn cael eu cyflawni fesul cam yn dilyn hyn.

Adnoddau

Gallwch gymryd rhan yn y sgyrsiau sydd eu hangen i lunio'r cynllun drwy e-bostio heiw.dentalworkforceplan@wales.nhs.uk