Neidio i'r prif gynnwy

Mentora a chefnogaeth

Grŵp optometreg

Mae ymchwil diweddar wedi dangos y gall optometryddion newydd gymhwyso orgyfeirio. Ar adeg pan fo hyder a phrofiad clinigol yn dal i ddatblygu, gall llwyth gwaith cynyddol ar ben cymhwyso arwain at bwysau i wneud penderfyniadau cyflymach a mwy gwrth-risg, ac o ganlyniad byddent atgyfeirio’n fwy na’r angen.  Bydd Mentor,  rwydwaith cymorth cymheiriaid a chyfleoedd i gymryd rhan mewn adolygiad gan gymheiriaid yn magu hyder ac yn galluogi optometryddion newydd gymhwyso i dderbyn lefel briodol o risg glinigol.

Mae mentora yn hwyluso DPP trwy rwydwaith o optometryddion profiadol sy'n arwain optometryddion newydd gymhwyso. Mae mentora yn ystyried eu cwmpas ymarfer ar gyfer gofynion DPP yn ogystal â darparu cymorth ac arweiniad. Mae cymorth mentora yn cynnwys Mentor dynodedig, llwyfan ar-lein i greu portffolio a rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid. Mae angen cymorth ar optometryddion pan fyddant yn ymgymryd â rolau clinigol ychwanegol ac, yn hollbwysig, yn eu galluogi i ddod yn fwy medrus wrth reoli a derbyn risg glinigol. Mae’r Fforwm Cymorth Rhagnodwyr Annibynnol Newydd Gymhwyso yn fenter gan AaGIC, a ddechreuwyd yn 2023 sy’n mynd i’r afael â’r angen hwn, ac mae wedi cael ymateb da gan y proffesiwn.

Cyfweliad â Hannah Jones

Optometrydd newydd gymhwyso yng Nghymru, ac un o'r cyntaf i dderbyn y gefnogaeth fentora:

C: Pam mae cefnogaeth bellach gan fentor yn bwysig i chi barhau â’r gyrfa?
A: Mewn unrhyw alwedigaeth gofal iechyd, credaf eich bod yn dysgu yn barhaus yn sgil ymchwil newydd a phrofiadau pobl eraill. Bydd cael mentor yn caniatáu imi weld dull ymarfer optometrydd arall a chreu un fy hun. Rwy'n credu y gallai'r gefnogaeth hon fod yn fuddiol iawn i optometryddion y dyfodol.
C: Pam wnaethoch chi benderfynu defnyddio'r gwasanaeth mentora?
A: Mae'r cyfnod pontio rhwng cyn gofrestru a bod yn optometrydd cwbl gymwys yn ddigon i hala ofn arna chi. Mae'n galonogol cael mentor y gallwch fynd ato i drafod eich penderfyniadau a gofyn sut y gallech wella yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at gael rhywfaint o gyngor ar sut y gallaf ddatblygu fy nyfodol ac ennill cymwysterau pellach.

Mae'r optometryddion sydd newydd gymhwyso yn cael eu mentora gan diwtoriaid optometrig o Ganolfan Addysg Ôl-raddedig Optometreg Cymru (WOPEC) (dolen i wefan www.wopec) dan oruchwyliaeth Sharon Beatty a Nik Sheen (ddim yn siŵr a oes gennych gysylltiadau â manylion unigolion) ar y cyd â'r tîm cymorth Ail-ddilysu AaGIC.

Cynhelir y gwerthusiad annibynnol gan Yr Athro Professor Alison Bullock yn CureMed ym Mhrifysgol Caerdydd.