Yn ôl Adroddiad y Cyngor ar Dystiolaeth Wyddonol : Y GIG ymhen Deg Mlynedd a Rhagor, mae Cymru yn wynebu rhai o'r heriau iechyd poblogaeth mwyaf arwyddocaol yn ystod y deng mlynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys poblogaeth sy’n cynyddu ac yn heneiddio a fydd yn byw'n hirach gyda nifer o glefydau, gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl, diabetes, a chanser. Mae gweithlu’r proffesiynau perthynol i iechyd (AHP) eisoes yn rhan gyfannol, gan weithredu ar draws gwasanaethau sylfaenol ac eilaidd y GIG, gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector. Mae hefyd mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn uniongyrchol.
Rydym wedi datblygu Cynllun Datblygu’r Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) i fynd i’r afael â heriau’r gweithlu AHP ar hyn o bryd ac yn y dyfodol gydag amserlenni clir a’r hyn y gellir ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf. Drwy roi’r cynllun hwn ar waith, gall y gweithlu AHP ddiwallu anghenion iechyd newidiol poblogaeth y dyfodol drwy drawsnewid. Bydd hyn yn sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel i gleifion ac yn galluogi unigolion i fyw bywydau iachach am hirach.