Mae Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gosod dull ar gyfer creu GIG sydd â gweithleoedd lle gall staff brofi ymddygiadau tosturiol, cyfunol, iach a theg. Cydnabyddir bod llawer o gyfleoedd i ddylanwadu ar y newid hwn, gan gynnwys datblygu arweinyddiaeth, newid ein dull ynghylch profiadau gwaith cydweithwyr ac ail-ganolbwyntio ar sut y caiff ein “polisïau” pobl eu dylunio a’u defnyddio.
Gwnaeth Arolwg Staff diweddar hefyd bwysleisio’r angen i fynd i’r afael â pherthnasoedd yn y gweithle (gan gynnwys bwlio ac aflonyddu) ac roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus i ddwyn hyn ymlaen mewn partneriaeth.
Trwy weithio i ddisodli’r Polisi Cwynion a’r Weithdrefn Urddas yn y Gwaith, teimlid bod cyfle gwirioneddol i gyflogwyr a chydweithwyr undebau llafur gydweithio i ail-ganolbwyntio ein ffordd draddodiadol o wneud pethau a symud ymlaen i lunio dull a fyddai’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal problemau trwy feithrin perthnasoedd gweithio a gweithleoedd iachach. Bellach, cytunwyd mewn partneriaeth ar ddull newydd ar y cyd, a chaiff ei lansio ar 1 Mehefin 2021. Dwy agwedd allweddol i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r dull newydd hwn yw datblygu Rhwydwaith Cyfryngu i ymdrin â materion cyn gynted â phosibl a datblygu polisi Parch a Datrys newydd (a fydd yn disodli’r Polisi Cwynion a’r Weithdrefn Urddas yn y Gwaith blaenorol).
Cynhaliwyd dwy sesiwn codi ymwybyddiaeth, wedi'u hanelu at bob rheolwr ac aelod staff GIG Cymru er mwyn darparu:
Arweiniwyd y sesiynau gan y cydweithwyr allweddol canlynol:
Isod ceir recordiadau o bob sesiwn, ochr yn ochr â chopi o'r cyflwyniad.