Neidio i'r prif gynnwy

Diwylliant Teg, Cytûn, Iach, Tosturiol

Dynes yn siarad a dyn yn gwrando

Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wrthi’n newid, fel y nodir yn Cymru Iachach a Strategaeth ddrafft y Gweithlu (a grëwyd yn dilyn adborth yn cynnwys Arolygon Staff ac ymgysylltu eang). Fel cydweithwyr ym maes gofal iechyd, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu “sut rydyn ni’n gwneud pethau”. 

Gwyddom nad oes dim yn aros yn yr unfan. Mae’r ffordd rydyn ni wedi gorfod gweithio gyda’n gilydd drwy ein hymateb torfol i Covid-19 wedi arwain at newidiadau cyflym sydd, yn eu tro, wedi cyflwyno cyfleoedd sylweddol i wella ein hamgylchedd gwaith. Fydd ein gwaith a’n gweithleoedd fyth yr un fath, ac nid oes modd iddyn nhw fod, (fedrwn ni ddim peidio â gwybod na dadwneud yr hyn rydyn ni’n ei wybod nawr). Mae hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni ddatblygu ar y cyd set wahanol o ddisgwyliadau sy’n ein cefnogi a’n herio fel unigolion, o fewn grwpiau/timau ac fel sefydliadau. Bydd y disgwyliadau hyn yn arwain at gyfres o siarteri/addewidion/disgwyliadau/llwon cyffredin.

Cyn pandemig Covid 19, roeddem wedi bwriadu datblygu dull GIG Cymru gyfan o ymdrin â’n diwylliant, er mwyn ein helpu i gyd i fod yn glir ynghylch ein disgwyliadau a’n hawliau (yn debyg i’r Fframwaith Llywodraethu Staff yn yr Alban). Gan symud y tu hwnt i’r ymateb uniongyrchol i Covid-19, mae angen i ni ddefnyddio hyn fel cyfle i lunio sut rydyn ni’n gwneud pethau fydd yn helpu i gefnogi a gwella:

  • Ein disgwyliadau o ran arweinyddiaeth a chefnogi pobl i ddatblygu
  • Datblygu ein dull o fyfyrio ac adborth
  • Newid ein dulliau o ymdrin â pherthnasoedd a pholisïau yn y gweithle
  • Newid ein ffocws a’n mesurau

Beth yw gweithleoedd teg, cytûn, iach a thosturiol?

Er y bydd pob un ohonom yn disgrifio gweithle iach tosturiol ychydig yn wahanol, mae’r Athro Michael West a Chronfa Kings yn nodi bod angen tri pheth arnom i gyd: 

Ymreolaeth: gwneud ein penderfyniadau ein hunain

Perthyn: teimlo’n rhan o rywbeth gyda’r bobl o’n cwmpas

Cymhwysedd: gallu gwneud ein gwaith

Yr hyn y mae angen i ni ei wneud a’r hyn y gallwn ei ddisgwyl gan ein gilydd yn y gweithle yw: 

Tabl wybodaeth am Diwylliant Teg, Cytûn, Iach, Tosturiol

Rydyn ni eisoes yn gweld newid yn ein polisïau pobl gan gynnwys y dull diweddaraf o Reoli Presenoldeb yn y Gwaith. Yn ystod 2020-21, byddwn gyda’n gilydd yn cytuno ar y disgwyliadau a’r addewidion a fydd yn ein helpu i ddiweddaru a gwella holl ddulliau GIG Cymru (yn cynnwys polisïau). 

Mae gan bob un ohonom rôl, ond gyda ni ein hunain yn y canol.

Gwybodaeth am Diwylliant Teg, Cytûn, Iach, Tosturiol

Mae rhoi mwy o bwyslais ar wrando (#Gwrando) a chlywed (#Clywed) yn ffocws cyntaf pwysig i bob un ohonom wrth i ni ddatblygu Gweithleoedd Iach ar draws GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwrando/clywed a rhoi sylw i ni’n hunain, i’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw a’r bobl rydyn ni’n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw.


Sut byddwn ni’n adnabod llwyddiant 

At ei gilydd, nod y dull yw:

  • datblygu diwylliant cyfunol a thosturiol,
  • adnabod gwahaniaethau/anghenion unigol,
  • cynyddu ymreolaeth/ymddiriedaeth,
  • meithrin ymdeimlad cliriach o berthyn; a
  • datblygu cymhwysedd unigol a chyfunol priodol. 

Byddwn yn neilltuo mesurau i bob un o’r canlyniadau hyn ac yn eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn monitro dilyniant. 


Sut rydyn ni’n/byddwn ni’n gwneud hyn yn AaGIC  

Cam 1 Mai 

  • Creu eglurder ar y paramedrau ar gyfer y dull gweithredu: wedi’i gynnwys/ei hepgor; ffiniau; amserlenni; tîm craidd y prosiect 
  • Meithrin cymorth gyda chydweithwyr; gweithdai rhithwir i gael pobl i gymryd rhan yn y gwaith o greu’r dull gweithredu;
  • Cefnogi sefydliadau eraill i ddechrau’r dull gweithredu fel y bo’n briodol 

Cam 2 Mehefin 

  • Sefydlu offeryn adborth ar gyfer cyfranogiad eang 
  • Cynllunio manylion y dull gweithredu; cynhyrchu gwybodaeth ymgysylltu; cwblhau negeseuon allweddol; trosolwg drafft o’r “hyn rydyn ni’n ei wybod” [4 gair: teg, cytûn, iach, tosturiol]

Cam 3 Mehefin-Gorffennaf 

  • Lansio’n brydlon gyda grwpiau/timau/ar draws AaGIC: rhannu gwybodaeth yn eang 
  • Gweithdai rhithwir (grwpiau penodol); cynadleddau/digwyddiadau rhithwir; ein cwestiynau allweddol: “ydy’r rhain yn edrych yn iawn” “Beth mae hyn yn ei olygu i chi” “beth sydd ei angen arnoch i helpu i wneud i’r rhain weithio i chi?”

Cam 4 Awst 

  • Dod â gwybodaeth at ei gilydd
  • Gwirio’n ôl gyda chydweithwyr (“cynnwys” prawf/peilot) 
  • Creu deunyddiau ymgysylltu pellach (e.e. fideos)

Cam 5 O fis Mehefin

  • Defnyddio dysgu i gefnogi dull GIG Cymru

Sut rydyn ni’n ei wneud/byddwn yn gwneud hyn ar gyfer GIG Cymru 

Cam 1 Mai 

  • Creu eglurder ar y paramedrau ar gyfer y dull gweithredu: wedi’i gynnwys/ei hepgor; ffiniau; amserlenni; tîm prosiect craidd (i gynnwys dolenni Undebau a Chydraddoldeb)
  • Meithrin cymorth gyda chydweithwyr; gweithdai rhithwir i gael pobl i gymryd rhan yn y gwaith o greu’r dull gweithredu;
  • Manylion peilot y dull gweithredu yn AaGIC a sefydliadau priodol eraill

Cam 2 Mehefin 

  • Sefydlu offeryn adborth ar gyfer cyfranogiad eang
  • Cynllunio manylion y dull gweithredu; cynhyrchu gwybodaeth ymgysylltu; cwblhau negeseuon allweddol; trosolwg drafft o’r “hyn rydyn ni’n ei wybod” [4 gair: iach, tosturiol, torfol, teg]

Cam 3 Gorffennaf-Tachwedd 

  • Lansio’n brydlon gyda grwpiau/timau/ar draws: rhannu gwybodaeth yn eang 
  • Gweithdai rhithwir (grwpiau penodol); cynadleddau/digwyddiadau rhithwir; ein cwestiynau allweddol: “ydy’r rhain yn edrych yn iawn” “Beth mae hyn yn ei olygu i chi” “beth sydd ei angen arnoch i helpu i wneud i’r rhain weithio i chi?” 

Cam 4 Rhagfyr-Chwefror 

  • Dod â gwybodaeth at ei gilydd
  • Gwirio’n ôl gyda chydweithwyr (“cynnwys” prawf/peilot)
  • Creu deunyddiau ymgysylltu pellach (e.e. fideos)

Cam 4 Mawrth 21 ymlaen

  • “Gweithredu”: adolygu/diweddaru polisïau, strategaethau, deunyddiau ategol ac ati
  • Pennu dyddiadau adolygu
  • Cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru