Neidio i'r prif gynnwy

Lleoliadau Addysg Rhyngbroffesiynol: Cynhadledd meithrin arfer cydweithredol yng Nghymru 2024

Dechrau:
10:00 - 08/07/2024
Diwedd:
16:59 - 08/07/2024
Math o ddigwyddiad:
Conference
Lleoliad:
PDC, Campws Trefforest, De Cymru CF37 1DL

Disgrifiad

At sylw bob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol: ymunwch â ni ar gyfer y gynhadledd lleoliadau addysg rhyngbroffesiynol gyntaf yng Nghymru.

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben.

Gallwch wylio recordiad o'r digwyddiad (AM yn unig) yma: ffilm digwyddiad

 


Am y Gynhadledd
 

Mae AaGIC wedi arwain menter i gynnwys lleoliadau rhyngbroffesiynol ym mhob rhaglen gofal iechyd cyn cofrestru a gomisiynir yng Nghymru.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys:

  • cefndir i'r fenter
  • enghreifftiau o arferion gorau
  • cyflwyniadau poster
  • myfyrdodau myfyrwyr ac addysgwyr
  • prif anerchiad gan y Ganolfan Hybu Addysg Ryngbroffesiynol
  • nodi ffordd ymlaen i ddatblygu yn y dyfodol.

Adnoddau

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn adeilad Aberhonddu (rhif 3 ar y map isod).


Map o Gampws Trefforest

Cynllun 1 (uswfoxtail.blob.core.windows.net)


Parcio

Mae’r Maes Parcio Myfyrwyr ac Ymwelwyr ar gampws Trefforest wedi’i leoli gyferbyn â phrif fynedfa’r Brifysgol ar Heol Llanilltud (ar y dde ar waelod y map), sydd ychydig dros y ffordd o adeilad Aberhonddu (Rhif 3 ar y map). Nid oes cyfleusterau parcio i ymwelwyr (ac eithrio'r rhai ag anableddau) ar y campws ei hun. Mae System Parcio Ceir Awtomatig ar gyfer Adnabod Rhifau Ceir ar waith yn Heol Llanilltud. Mae defnyddwyr dyddiol y meysydd parcio myfyrwyr ac ymwelwyr yn talu £1 am hyd at 5 awr o barcio a £2 am unrhyw gyfnod dros 5 awr. Gellir talu yn un o’r gorsafoedd talu yn y maes parcio drwy gerdyn credyd, debyd neu ddigyffwrdd, neu drwy’r Ap Glide.


Cyfleusterau Gweddi

Mae lle bob amser ar gael yn y Tŷ Cwrdd ar gyfer gweddïo, naill ai’n unigol neu mewn grwpiau. (Rhif 11 ar y map).


Gwybodaeth am Gampws Trefforest

Getting to Treforest Campus | University of South Wales

Bydd llyfryn ein cynhadledd ar gael yn fuan!

Rydym yn awyddus i chi rannu eich profiadau a’ch arferion gorau ar sail lleoliadau addysg rhyngbroffesiynol. Rydym yn galw am gyflwyniadau poster yn dangos dysgu cydweithredol, a fydd yn cael eu harddangos yn y gynhadledd.

Cyflwynwch eich cyflwyniadau poster erbyn 1 Mai 2024 drwy'r ddolen: cyflwyno poster erbyn 1 Mai.

Cysylltwch â HEIW.IPEConference@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth neu ymholiadau cynhadledd.

Taflen y gynhadledd