Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau grŵp

 

Gwydnwch yn y Gweithle Nyrsio: prif flaenoriaeth 

Judith Benbow  

Mae gwytnwch a lles nyrsys yn brif flaenoriaeth i’r gweithlu a’r gweithle (Benbow et al 2024). Mae gwytnwch yn arf a all helpu nyrsys i reoli straen yn y gwaith, gan ddod mewn i gysylltiad â thrallod yn y gweithle. (Benbow 2022). Mae deall rôl ffactorau cadarnhaol yn y gweithle (Adnoddau, Addysg a Chymorth) yn allweddol i'w alluogi, wedi'i ategu gan berthnasoedd cefnogol cryf. 

Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio ystyr gwytnwch i chi, yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich adnoddau personol ac yn y gweithle i hyrwyddo eich gwytnwch eich hun, a’r rhai yr ydych yn gweithio gyda nhw, er budd pawb.Bottom of Form

Nid yw cyfleoedd yn Digwydd ar Hap, Rydych Chi'n Eu Creu 

Bianca Oakley a Sian Lewis 

Nododd Bianca a Sian o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda feysydd i wella ffyrdd o weithio, datblygiad staff, morâl a chyfleoedd hyfforddi a oedd wedi arwain at recriwtio a chadw staff gwael. Fe wnaethant nodi rhwystrau sylweddol o fewn eu tîm a mabwysiadu ymagwedd gadarn, drawsnewidiol i'w goresgyn. Gan weithredu gyda'r arwyddair "nid yw cyfleoedd yn digwydd ar hap, rydych chi'n eu creu," fe wnaethant herio arferion traddodiadol trwy bwysleisio cryfderau, personoliaethau a datblygiad aelodau'r tîm, ac wedi adeiladu tîm sy’n perfformio’n dda sydd wedi dangos llwyddiant mesuradwy. Y canlyniad yw tîm sydd heb unrhyw faterion recriwtio na chadw a model profedig o ragoriaeth mewn gofal cleifion.  

Nyrsio Lefel Uwch ac Ymgynghorol: Herio ffiniau arferion traddodiadol a llywio gofal arloesol. 

Nia Boughton a Lucie Parrie 

Sut gallwn ni adnabod a harneisio ein sgiliau a’n rhinweddau unigryw fel Nyrsys wrth symud ymlaen drwy lwybrau gyrfa uwch ac ymgynghorol ac osgoi meddyginoli ? 

Ydych chi'n arweinydd tosturiol? Archwiliwch arweinyddiaeth dosturiol gyda Dena Jones a Chris Ramshaw:

• trafod elfennau craidd arweinyddiaeth dosturiol

• darganfod adnodd hunanasesu arweinyddiaeth tosturiol GIG Cymru

• a chyfle i ymuno ag Addewid Arweinyddiaeth Dosturiol GIG Cymru.

Sgyrsiau aros ar waith: cadw a chefnogi Nyrsys yn GIG Cymru

Zoe Gibson a Julia Williams, Arweinwyr Cadw Lleol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae cadw staff nyrsio yn flaenoriaeth hollbwysig i GIG Cymru ac mae Sgyrsiau Aros wedi dod i’r amlwg fel arf pwerus i feithrin ymgysylltu, boddhad swydd, ac ymrwymiad hirdymor. Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn archwilio effaith Sgyrsiau Aros o ran cefnogi a chadw nyrsys, gan rannu mewnwelediadau a dulliau ymarferol o bob rhan o GIG Cymru.

Bydd cyfranogwyr yn dod i ddeall sut mae Sgyrsiau Aros yn helpu i fynd i'r afael â phryderon, gwella diwylliant y gweithle, a chryfhau morâl staff. Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu strategaethau sy'n canolbwyntio ar gadw gan greu amgylchedd gwaith cadarnhaol a chefnogol. Ymunwch â ni i archwilio sut y gall Sgyrsiau Aros ysgogi newid ystyrlon a chyfrannu at weithlu nyrsio cydnerth ac ymgysylltiedig yn GIG Cymru.

Cyswllt Gofal Iechyd 

Claire Hall a Cara Thomas 

Mae Rhaglen Cyswllt Gofal Iechyd RCN Cymru yn gymhwyster 6 mis dysgu seiliedig ar waith sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Prifysgol De Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro a Choleg Gwent. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n dymuno astudio rhaglen lefel gradd mewn nyrsio neu fydwreigiaeth, sydd naill heb y gofynion mynediad llawn neu'n teimlo y byddent yn elwa o brofiad pellach cyn iddynt gofrestru ar eu gradd.  

 Pwrpas y cymhwyster galwedigaethol hwn yw datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau nyrsio/bydwreigiaeth yr hyfforddai tra'n gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW). Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol cofrestredig a phrofiadol ym myrddau iechyd GIG Cymru, bydd yr hyfforddai’n datblygu ei sgiliau, gan ei alluogi i barhau â’i lwybr i ddod yn nyrs/bydwraig gofrestredig.