Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i feddygon a deintyddion sy'n ffoaduriaid

Er mwyn gweithio fel meddyg yn y DU, mae angen i chi gofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).

 

Cefnogaeth WARD i feddygon a deintyddion sy'n ffoaduriaid

Mae grŵp Meddygon a Deintyddion Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru (WARD) yn sicrhau bod yr addysg a’r hyfforddiant cywir ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol tramor ailadeiladu eu gyrfa yn y DU. 

Mae WARD yn helpu meddygon a deintyddion sy'n ffoaduriaid i gael cofrestriad gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Gwneir hyn trwy hyfforddiant wythnosol a chefnogaeth ariannol tuag at yr arholiadau iaith ganlynol.

 

Hyd yma, mae 300+ o weithwyr gofal iechyd proffesiynol (255 o feddygon a deintyddion) wedi elwa o'r prosiect. Isod mae'r hyn oedd gan rai ohonyn nhw i'w ddweud am WARD.

 

Cysylltwch

Os gallech chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod elwa o gefnogaeth WARD, i gael gwybodaeth am y prosiect a’r cymorth a ddarperir, neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â: HEIW.professionalsupport@wales.nhs.uk neu Sam Allen yn Alltudion ar Waith (DPIA) drwy sam@dpia.org.uk.

 
Ffynonellau cymorth eraill:
Adnodd Math o gefnogaeth a gynigir
Graddedig Meddygol Rhyngwladol (IMG) Yn darparu cyngor ar gofrestru, arholiadau Saesneg eu hiaith, arholiadau clinigol PLAB a mwy.
Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) elusennau sy'n cefnogi meddygon yn ariannol Mae elusennau BMA yn helpu pob meddyg a myfyriwr meddygol ar adegau o angen ariannol. Mae'n gweithio'n annibynnol ar y BMA.
Menter Meddyg sy'n Ffoaduriaid y BMA Mae pecyn o fuddion am ddim ar gael i wneud cais amdano os ydych yn gweithio tuag at gofrestru gyda'r GMC
Gwefan gyrfaoedd y GIG ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Gwybodaeth am gofrestriadau a mewnfudo ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cymhwyso dramor yn y DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r tu allan i'r AEE.
Gwefan gyrfaoedd y GIG ar gyfer meddygon yn benodol Gwybodaeth am ddod yn feddyg yn y DU.
Cefnogaeth i lawfeddygon sy'n ffoaduriaid Mae Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr yn cynnig cymorth i lawfeddygon sy'n ffoaduriaid a hyfforddeion llawfeddygol i'w helpu i mewn i'r GIG.
Cefnogaeth i ffoaduriaid sydd â phrofiad mewn obstetreg a gynaecoleg Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr yn cynnig cymorth i feddygon sy'n ffoaduriaid sydd â phrofiad yn y maes hwn.
Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) Mwy o wybodaeth i feddygon sy'n ffoaduriaid sydd eisiau ail-gymhwyso yn y DU.
Rhaglen DU CARA Mae'r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA) yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd bellach yn byw yn y DU fel ceiswyr lloches, ffoaduriaid a myfyrwyr rhyngwladol. Mae'n eich helpu i ddychwelyd i astudio neu broffesiwn cysylltiedig ar lefel sy'n cyfateb i'ch cymhwyster a'ch profiad.