Gofynnir i Preswylwyr gyflwyno eu Cais Llai nag Amser Llawn (LTFT)yn ystod y cyfnod ymgeisio. Unwaith y daw’r cyfnod i ben, bydd yr holl geisiadau’n cael eu hadolygu gan Gyfarwyddwyr y Rhaglen a’r Byrddau Iechyd /Practisau perthnasol i ganfod a ellir cefnogi’r cais. Ceir dadansoddiad llawn o'r amserlen ddisgwyliedig yn y Polisi Llai nag Amser Llawn. Bydd cyfnod ymgeisio mis Chwefror yn agor ar y 1af o Chwefror ac yn cau ar 28/29ain Chwefror ar gyfer preswylwyr sy'n dymuno dechrau gweithio Llai nag Amser Llawn rhwng y 1af o Awst a'r 31ain o Ionawr canlynol. Mae cyfnod ymgeisio mis Awst yn agor ar 1af o Awst ac yn cau ar 31ain Awst ar gyfer preswylwyr sy'n dymuno dechrau gweithio Llai nag Amser Llawn rhwng y 1af o Chwefror a'r 31ain Gorffennaf canlynol.
Mae'r ffenestr nesaf yn agor ym mis Awst 2025
Gall preswylwyr sydd â salwch sydyn neu'r angen sydyn i ymgymryd â chyfrifoldeb gofalu neu sy’n dychwelyd at hyfforddiant, gwneud cais y tu allan i’r cyfnod ymgeisio a dylent wneud cais drwy gyflwyno'r ffurflen digidol Amgylchiadau Eithriadol isod. Rydym yn eich cynghori y dylai’r broses gymryd tua 8 wythnos felly cadwch hynny mewn ystyriaeth pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.
Gall preswylwyr sydd wedi derbyn cynnig i raglen hyfforddi yng Nghymru ac sy’n dymuno mynd LTFT ar y pwynt cychwyn yn y swydd wneud cais drwy gyflwyno cais digidol o fewn 10 diwrnod i dderbyn cadarnhad ysgrifenedig gan dîm AaGIC. Mae hyn wedi’i amlinellu yn eich llythyr croeso. Sylwch, gall gymryd hyd at 8 wythnos i geisiadau gael eu cymeradwyo; cadwch hyn mewn cof wrth gyflwyno cais.
Cais LTFT am Recriwtiaid Newydd
Gall preswylwyr sy’n dymuno cynyddu eu WTE wneud hynny wrth gyflwyno cais tu allan i’r ffenest ymgeisio. Rydym yn eich cynghori y dylai’r broses gymryd tua 8 wythnos felly cadwch hynny mewn ystyriaeth pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.