Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn rhoi mynediad at e-gyfnodolion, e-lyfrau, cronfeydd data, gwybodaeth am feddyginiaethau, canllawiau, crynodebau o dystiolaeth, e-Ddysgu ac amrywiaeth o e-adnoddau eraill.
Mae ar gael i holl staff, deiliaid contractau a myfyrwyr GIG Cymru pan fyddant ar leoliad.
Os ydych chi’n defnyddio dyfais sydd wedi’i chysylltu â rhwydwaith GIG Cymru, ni ddylai fod angen mewngofnodi i weld adnoddau testun llawn.
Os ydych chi’n defnyddio’r e-Lyfrgell o’r tu allan i rwydwaith GIG Cymru, bydd angen i chi fewngofnodi i weld adnoddau testun llawn gan ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair OpenAthens.
Byddwch yn gallu defnyddio eich cyfrinair rhwydwaith a chyfeiriad e-bost GIG Cymru (Nadex) fel eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair OpenAthens. Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost GIG Cymru, gallwch gofrestru eich hun ar gyfer Cyfrif OpenAthens.
Hefyd, bydd angen i chi gofrestru gyda llyfrgell eich ysbyty gyda rhif cod bar llyfrgell a chyfrinair i weld testun llawn erthyglau ac e-lyfrau sy’n cael eu cadw yn yr e-Lyfrgell a’u harddangos yn NHS Wales LibrarySearch (catalog ar-lein).
Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i gael cod bar a chyfrinair y llyfrgell, neu os oes angen help arnoch i gael hyfforddiant neu i ddefnyddio'r e-adnoddau. Os ydych chi’n cael trafferthion technegol wrth ddefnyddio unrhyw un o’r e-adnoddau neu os hoffech chi awgrymu adnoddau ychwanegol, cysylltwch â’r Tîm e-Lyfrgell drwy e-bost neu Twitter @NHSWaleselib.