Mae’r tudalennau hyn wedi’u cynllunio i roi gwybodaeth i unigolion sydd wrthi’n ymgymryd â rôl hyfforddwr mewn gofal eilaidd neu addysg is-raddedig neu ar fin gwneud hynny.
Gall hyfforddwyr mewn gofal eilaidd hefyd ddod o hyd i ddolenni i ddatblygiad proffesiynol ar y tudalennau hyn gan fod cymaint o sgiliau hyfforddwyr yn gyffredin ac yn berthnasol i addysg a hyfforddiant mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Serch hynny, ceir proses gydnabod ar wahân i hyfforddwyr mewn gofal sylfaenol. Gweler Hyfforddiant meddyg teulu am fwy o wybodaeth.
Ers cyhoeddi proses y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ar gyfer cydnabod hyfforddwyr mewn gofal eilaidd ac addysg is-raddedig ym mis Awst 2012, mae'r broses o gydnabod hyfforddwyr wedi dod yn bell. Bellach mae hyfforddwyr yng Nghymru yn cael eu cydnabod yn ffurfiol drwy Gytundeb Hyfforddwyr Meddygol (Gofal Eilaidd ac Addysg Is-raddedig) y gellir cael mynediad ato drwy Borth Cytundeb Hyfforddwyr AaGIC ar-lein.
Rydym yn ymfalchïo mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu un dull cyson tuag at Gydnabod Hyfforddwyr ar draws addysg a hyfforddiant is-raddedig ac ôl-raddedig, gan brofi ymrwymiad AaGIC ac ysgolion meddygol i gefnogi unigolion ar y cyd ar draws continwwm addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru a galluogi unigolion i symud yn fwy ‘hyblyg’ rhwng y rolau hyfforddi.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu hyfforddwyr ledled Cymru drwy drefnu a hyrwyddo cyfleoedd datblygiad proffesiynol o ran eu rolau addysgol.
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bob un o’n hyfforddwyr am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel ac am gefnogi hyfforddeion yn eu datblygiad personol a phroffesiynol i'w galluogi i ddarparu gwasanaeth gofal iechyd o ansawdd uchel yn y dyfodol.
Gobeithiwn y bydd y tudalennau hyn yn adnodd defnyddiol a chefnogol i hyfforddwyr cyfredol yn ogystal ag unigolion sy'n awyddus i fod yn rhan o addysg a hyfforddiant meddygol yn y dyfodol.