Ar y trên:
Mae Gorsaf Drenau Abertawe (Heol Fawr) ond 1.4 milltir o'r stadiwm ac mae tua 20-25 munud o waith cerdded. Gellir archebu tocynnau trên yn https://www.nationalrail.co.uk/
Ar y bws:
Mae gwasanaeth bws rhif 4 yn stopio gyferbyn â Stadiwm Swansea.com. Mae amserlen y bws ar gyfer y gwasanaeth hwn ar gael i'w gweld yn https://www.firstbus.co.uk/api/timetables/pdf?opco=21&service=4&day=mf&print=pdf
Ewch i wefan First Cymru i gynllunio eich taith bws yma:https://www.firstbus.co.uk/south-west-wales/plan-journey/timetables
Ar feic:
Os ydych chi'n byw'n lleol ac eisiau beicio i'r gynhadledd, mae 15 o faeau beiciau wedi'u lleoli y tu allan yng nghornel De-ddwyrain y stadiwm. Os ydych chi eisiau defnyddio'r rhain, cofiwch ddod â'ch clo beic diogel eich hun.
Mewn car:
Mae Stadiwm Swansea.com wedi'i leoli wrth ymyl Parc Manwerthu Morfa. Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 45 a chymerwch yr A4067 i'r De tuag at Ganol y Ddinas am tua 3 milltir.
Byddem yn annog rhannu ceir lle bynnag y bo modd.