Deon Cyswllt ar gyfer Cymorth Addysg Ôl-raddedig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Deon Cyswllt ar gyfer Cymorth Addysg Ôl-raddedig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Wedi’i magu yn Ne Cymru a'i hyfforddi yn Ysgol Feddygaeth Caerdydd, manteisiodd Jane ar y cyfle i ymgymryd â rhywfaint o'i hyfforddiant ôl-raddedig ym maes Meddygaeth Frys dramor, cyn ailgartrefu drachefn yn Ne Cymru. Fel hyfforddai bu'n ymgymryd â'r Dystysgrif Ôl-raddedig Addysg Feddygol a mynychodd y Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol fel Cynrychiolydd yr Hyfforddeion ar gyfer Meddygaeth Frys. Wedi iddi gymhwyso fel Ymgynghorydd, cymerodd Jane rôl Arweinydd Hyfforddiant Llai na Llawn Amser ar gyfer Meddygaeth Frys yng Nghymru. Daeth hefyd yn Oruchwyliwr Addysg i feddygon preswyl uwch ym maes Meddygaeth Frys, ymarferwyr nyrsio-uwch ac ymarferwyr nyrsio brys. Cyn ymgymryd â rôl Deon Cyswllt (Cymorth Addysg Ôl-raddedig), bu'n Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi ac yn Bennaeth yr Ysgol Meddygaeth Frys yng Nghymru.