Anogir pob unigolyn sy'n ymrwymo i ymgymryd â rôl hyfforddwr meddygol mewn gofal eilaidd neu addysg israddedig yn gryf i gymryd rhan mewn sefydlu hyfforddwr.
Nod y cyfnod sefydlu yw cefnogi hyfforddwyr i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i'w galluogi i ddarparu goruchwyliaeth a chymorth effeithiol i'w hyffordd(iaid) ac i hyrwyddo amgylcheddau dysgu diogel a chadarnhaol lle gall meddygon preswyl ffynnu.
Mae AaGIC yn cynnal diwrnod sefydlu wyneb yn wyneb blynyddol sydd wedi’i anelu’n bennaf at:
• Goruchwylwyr Addysgol
• Goruchwylwyr Clinigol Enwebedig
• Y rhai sy'n gyfrifol am oruchwylio cynnydd myfyrwyr ym mhob ysgol feddygol
• Cydlynwyr arweiniol ym mhob Darparwr Addysg Lleol
Gwahoddir meddygon preswyl yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant meddygol ôl-raddedig hefyd i'w paratoi ar gyfer dod yn hyfforddwyr yn y dyfodol.
Cynhelir Rhaglen Sefydlu Hyfforddwyr Meddygol 2025 ddydd Mercher 24 Medi 2025 yn Stadiwm Swansea.com (rhaid cofrestru pob mynychwr ymlaen llaw). Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we'r digwyddiad.
I'r rhai na allant fod yn bresennol yn bersonol, mae pecyn sefydlu ar-lein sy'n cynnwys y recordiadau o ddiwrnod sefydlu blaenorol ar gael i'w weld yma.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Uned Ansawdd AaGIC.