Mae rhagor o wybodaeth am natur hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru ar gael ar ein gwefan HyfforddiGweithioByw.
Gallwch ddechrau troedio’ch llwybr nyrsio cyn ieuenged ag 16 oed fel cadét nyrsio neu drwy ymroi i brentisiaeth gofal iechyd. Nid oes uchafswm oedran ar gyfer dechrau’ch gyrfa nyrsio.
Daw myfyrwyr nyrsio o gefndiroedd amrywiol, gydag ystod o brofiadau a chymwysterau. Er mai un llwybr yw Lefelau A, mae llawer o gymwysterau eraill a all hefyd agor drysau i yrfa nyrsio gwerth chweil.
Y peth allweddol yw trafod eich sefyllfa benodol gyda'r brifysgol neu'r prifysgolion y mae gennych ddiddordeb mewn gwneud cais iddynt. Mae’r cyrsiau’n dechrau ym mis Mawrth a mis Medi – cewch ragor o wybodaeth drwy’r dolenni isod:
Prifysgol Abertawe Dod yn Nyrs - Prifysgol Abertawe
Prifysgol Aberystwyth Nyrsio : Astudio Gyda Ni , Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor Nyrsio | Bangor University
Prifysgol Caerdydd Nyrsio - Astudio - Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Agored Nyrsio yng Nghymru – Prifysgol Agored
Prifysgol De Cymru Nyrsio - Prifysgol De Cymru
Prifysgol Wrecsam
Cewch gyfleoedd i ennill cyfoeth o brofiadau clinigol ymarferol, dan oruchwyliaeth, ac i ddysgu yng nghysgod gweithwyr proffesiynol profiadol. Byddwch yn cael blas ar fywyd nyrs cymwysedig wrth ymroi i’r profiadau ymarferol. Bydd y profiad hwn ar ffurf lleoliadau gwaith mewn safleoedd gofal iechyd er mwyn i chi gael datblygu’ch sgiliau clinigol a’ch sgiliau cyfathrebu. Bydd y lleoliadau'n amrywio a bydd cyfleoedd ichi weithio ar wardiau ysbyty, mewn meddygfeydd a sawl lleoliad arall.
Y garreg filltir gyntaf yw cofrestru fel nyrs. Wedi hynny, gallwch ganlyn gyrfa ym mha bynnag faes nyrsio sy'n ennyn eich diddordeb. Gyda stôr o gyfleoedd o ran datblygiad proffesiynol parhaus, gallwch lunio gyrfa mor amrywiol ag y dymunwch.
Os ydych eisoes wedi cymhwyso fel nyrs ac yn awyddus i ailafael ynddi, mae cwrs seiliedig ar ymarfer ar gael. Bydd y cwrs chwe mis hwn yn adnewyddu eich sgiliau a'ch gwybodaeth. Gallwch ymroi i’r cwrs hwn naill ai ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd, Abertawe, De Cymru neu Wrecsam.
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.