Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Cydlynwyr Wardiau Esgor

Mae cydlynwyr wardiau esgor yn rhan annatod o osod y diwylliant a safonau diogelwch arweiniol yn yr amgylchedd geni ac ar gyfer y tîm mamolaeth (NHS England 2023).

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi gweithio ochr yn ochr ag Arweinwyr Strategol Bydwreigiaeth ledled Cymru i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella ansawdd.

Mae’r fframwaith cydlynwyr ward esgor wedi’i ddyfeisio i helpu darpar gydlynwyr wardiau esgor a’r rhai presennol i sicrhau bod ganddynt y sgiliau, a’r datblygiad sydd eu hangen arnynt ar gyfer y rôl.

Mae’r fframwaith tri cham yn cynnwys:

  • Hyfedredd datblygu ar gyfer darpar gydlynwyr
  • Canllaw ar gyfer eu deuddeg mis cyntaf yn y rôl
  • Adnoddau DPP parhaus i gefnogi cydlynwyr ar eu cam nesaf mewn bydwreigiaeth.

Dr Suzanne Hardacre (Cadeirydd y Grŵp Arweinwyr Bydwreigiaeth Strategol a Chyfarwyddwr Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg):

Mae’r fframwaith newydd hwn wedi’i greu drwy gydweithio ag Arweinwyr Strategol Bydwreigiaeth a bydwragedd o bob rhan o Gymru.  Fe'i cynlluniwyd i gefnogi datblygiad Cydlynwyr Wardiau Esgor Newydd a rhai sy'n dymuno gwneud hynny.  Mae gofalu am fenywod, pobl sy'n rhoi genedigaeth a'u teuluoedd yn hollbwysig ym mhob lleoliad mamolaeth gan gynnwys y ward esgor.  Bydd y fframwaith cynhwysfawr hwn yn cefnogi dull safonol ledled Cymru o ymsefydlu, hyfforddi a datblygu Cydlynwyr Wardiau Esgor.”

Adnoddau