Mae cefndir Sara mewn Gofal Critigol ac Anaesthesia ac mae wedi bod yn gysylltiedig ag efelychiad ers tua 2009.
Mae ei phrofiad yn seiliedig yn bennaf ar efelychiad yn y fan a’r lle ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi cynhwyso hyn i systemau, llwybrau a phrofion protocol.
Mae ei phrofiadau’n cynnwys cyflwyno hyfforddiant efelychiad mewn Gofal Critigol, gan helpu unedau eraill i sefydlu eu rhaglenni yn y fan a’r lle eu hunain ac i ddatblygu’r sgiliau gofynnol, gan weithio ochr yn ochr â seicolegwyr i ddatblygu sgiliau dadfriffio, a chyflwyno mewn amryw o gynadleddau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ganddi gyfoeth o brofiad hefyd o ddylunio, sefydlu a rhedeg amrywiaeth o gyrsiau efelychiad rhyngbroffesiynol.
Yn 2016, dyfarnwyd i Sara gymrodoriaeth efelychiad ffurfiol ac aeth i Awstralia i weithio am flwyddyn yn y Sydney Clinical Skills and Simulation Centre yn ogystal ag yn Ysbyty’r Royal North Shore yn Sydney. Cafodd amser bythgofiadwy yno yn datblygu sgiliau a phrofiadau mewn hyfforddiant rhyngbroffesiynol seiliedig ar efelychiad i gyfoethogi ei sgiliau yn y fan a’r lle. Hefyd, cafodd gyfle i weithio ochr yn ochr ag amryw o randdeiliaid eraill gan gynnwys Prifysgol Sydney a daeth i adnabod nifer o efelychwyr ysbrydoledig o bob rhan o’r byd. Roedd rhai o’i phrofiadau mwyaf cofiadwy’n cynnwys bod yn rhan o dîm efelychiad y gynhadledd Cyfryngau Cymdeithasol a Gofal Critigol (SMACC), gan gyflwyno gweithdy a rhaglenni efelychiad ar lwyfannau yn Nulyn, Berlin a Sydney.
Mae Sara bellach yn ôl yng Nghymru, ac wrth ei bodd â’i rôl fel Deon Cyswllt mewn Efelychiad a Sgiliau Clinigol ac yn arwain tîm efelychiad gwych AaGIC. Mae’n arbennig o gyffrous o gael dod i adnabod y gymuned efelychiad yng Nghymru ac yn cyfrannu at y gwaith eithriadol sy’n digwydd ar hyd a lled y wlad.