Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â bwrdd AaGIC fel aelod annibynnol

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Bwrdd AaGIC fel Aelod Annibynnol i helpu i lunio dyfodol gweithlu'r GIG yng Nghymru. AaGIC yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru gyda swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd.  Ein pwrpas yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion / defnyddwyr gwasanaeth ac iechyd poblogaeth rhagorol. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda chyrff eraill y GIG a'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddio a Llywodraeth Cymru.

Fel Bwrdd rydym yn cynnal ein busnes yn unol â'n gwerthoedd sefydliadol sef:

  • Parch at bawb
  • Gyda'n gilydd fel tîm
  • Syniadau sy'n gwella

Rydym yn awyddus i sicrhau bod cyfansoddiad y Bwrdd yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Rydym yn gwerthfawrogi unigrywiaeth ac amrywiaeth unigol ac yn credu bod hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau sy'n adlewyrchu anghenion pawb yn ein cymuned.  Rydym am gynyddu cynrychiolaeth pobl o hunaniaethau, cefndiroedd a diwylliannau amrywiol ac annog ceisiadau gan grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. 

Tâl Aelodau – £9,360 ynghyd â threuliau rhesymol.

Mae pob swydd yn seiliedig ar ymrwymiad tybiannol o bedwar diwrnod y mis.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2 Ionawr 2026.

Am ragor o fanylion ac i wneud cais ewch i Penodi Aelod Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) neu ar gyfer ymholiadau cysylltwch drwy e-bost publicappointments@gov.cymru.

Gellir cael fersiwn print bras, Braille neu sain o'r hysbyseb hon drwy gais gan 03000 255454.