Neidio i'r prif gynnwy

Ymgyrch 'Agor y Drws' Addysg a Gwella Iechyd Cymru'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn y GIG

05/06/2024

Mae AaGIC wedi comisiynu “Agor y Drws”, cyfres o sesiynau undydd pwrpasol, newydd ar gyfer arweinwyr a rheolwyr y GIG a fydd yn helpu i hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith aelodau’r gweithlu er budd cleifion.

Nod y sesiynau yw rhoi cyfle i fynychwyr feddwl o’r newydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy effeithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal ym mhob rhan o’r GIG. Mae hefyd yn codi cwr y llen ar rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i weithwyr y GIG ddysgu Cymraeg neu i adfywio’u sgiliau Cymraeg. Mae’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â rhai o’r heriau a wynebir gan Fyrddau Iechyd yng nghyd-destun gofynion deddfwriaethol Safonau’r Gymraeg – ac yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol o ran sut i ymateb i’r materion cydymffurfio hyn.

Mae’r ymgyrch wedi’i llunio yng nghyd-destun Mwy na Geiriau, sef fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer hybu’r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rhan greiddiol o’r fframwaith hwnnw yw’r Cynnig Rhagweithiol, sy’n ymwneud â darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Mae’n gyfrifoldeb ar bawb sy’n darparu gwasanaethau gofal i bobl a’u teuluoedd ledled Cymru i wireddu’r Cynnig Rhagweithiol.