Yn AaGIC, fel rhan o GIG Cymru, rydym yn cydnabod effaith newid hinsawdd ar iechyd y boblogaeth ac ôl troed carbon sylweddol gofal iechyd. Yn unol â Chynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru, rydym yn chwarae ein rhan i liniaru ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd ein hunain ac i helpu eraill yn y system i wneud yr un peth.
Un ffordd yr ydym yn cyflawni hyn yw trwy weithredu ein Cynllun Gweithredu ar newid hinsawdd newydd , a fydd yn helpu i sicrhau bod addysg a hyfforddiant gofal iechyd cynaliadwy ar gael i bob dysgwr a hyfforddai yng nghylch gorchwyl AaGIC. Drwy’r cynllun, rydym yn parhau i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd system gofal iechyd cynaliadwy ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol a darparu addysg a hyfforddiant i helpu dysgwyr a hyfforddeion i wneud eu hymarfer yn fwy cynaliadwy. Gyda’i gilydd, ac mewn cydweithrediad â chydweithwyr ar draws y system, bydd y cynllun hwn yn helpu i greu GIG Cymru fwy cynaliadwy er budd iechyd cleifion a’r boblogaeth.
Mae’r Cynllun Gweithredu Addysg a Hyfforddiant Hinsawdd Gall wedi’i ddatblygu gan Weithgor Addysg a Hyfforddiant Hinsawdd Gall AaGIC, grŵp mewnol â chynrychiolaeth o bob rhan o lwybrau a rhaglenni proffesiynol yn AaGIC. Mae’r cynllun yn cynnwys 60 o gamau gweithredu amlbroffesiynol a phroffesiwn penodol wedi’u grwpio yn ôl chwe thema ac fe’i cefnogir gan setiau o egwyddorion a blaenoriaethau datblygu.
Mae camau gweithredu â blaenoriaeth wedi’u cynllunio i’w cyflawni erbyn mis Mawrth 2026, ond yn unol â’r gwaith esblygol mae cwmpas pellach i’w wneud mewn rhai meysydd a fydd yn llywio iteriadau’r cynllun yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth a diweddariadau ar gael ar wefan AaGIC ac yn y Gymuned Hinsawdd Gall.