Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb AaGIC i adroddiad y GMC: Cyflwr addysg ac ymarfer meddygol yn y DU: Profiadau yn y gweithle 2024 .

Fel comisiynydd hyfforddiant meddygol ôl-raddedig yng Nghymru, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn rhoi gwerth mawr ar ein hyfforddwyr a’n hyfforddeion a’u cyfraniad hanfodol at ofal cleifion yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod y themâu sy'n codi yn yr adroddiad hwn ac mae ein hyfforddwyr a'n hyfforddeion ar flaen y gad yn ein gwaith i fynd i'r afael â hwy.

Uchelgais ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol erbyn 2030 yw cael gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol brwdfrydig, ymgysylltiol a gwerthfawr, gyda’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i ddiwallu anghenion pobl Cymru. Mae’n disgrifio dull gweithredu sy’n rhoi llesiant a chynhwysiant wrth wraidd pob cynllun ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal.

Adlewyrchir yr uchelgais hwn yn ein gwaith gyda hyfforddwyr, hyfforddeion a phartneriaid gyda'r nod o wella profiadau meddygon dan hyfforddiant yng Nghymru.

Mae’r gwaith hwn yn cynnwys: cefnogi hyfforddeion sy’n dymuno hyfforddi ar sail Llai nag Amser Llawn (LTFT), buddsoddi adnoddau mewn cyfleoedd i ennill cymwyseddau y tu allan i’r rhaglen hyfforddiant clinigol, hyrwyddo Codi Llais heb Ofn a ffyrdd i hyfforddeion godi pryderon, cefnogi’r ddarpariaeth o gefnogaeth arbenigol i hyfforddeion fel y rhaglen PASS Meddygon Teulu ac adnoddau lles a chefnogaeth gynyddol trwy ein Huned Cefnogaeth Broffesiynol. Rydym hefyd yn darparu DPP a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer ein hyfforddwyr ac mae gennym arweinwyr SAS ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.

Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ymgorffori arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol ar draws GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys: ein Cymrodoriaethau Hyfforddeion Arweinyddiaeth Glinigol blaenllaw yng Nghymru, ein rhaglen Arweinyddiaeth Glinigol Uwch ar gyfer uwch-glinigwyr a chyfoeth o ddatblygu arweinyddiaeth ac adnoddau ar gyfer yr holl staff, ar bob lefel, ar Borth Arweinyddiaeth Gwella. Rydym hefyd wedi ymgorffori arweinyddiaeth dosturiol yn ein cwricwlwm generig.

Byddwn yn adolygu canfyddiadau'r adroddiad ac yn eu cymryd i ystyriaeth wrth i ni barhau â'n gwaith i wella profiadau hyfforddi yng Nghymru.