Hoffwn eich croesawu chi, ein gweithlu nyrsio, i ymuno gyda ni yn ein cynadleddau nyrsio: O Bwys i Chi, O Bwys i Ni.
Mi fydd yno dau ddigwyddiad yn cael eu cynnal.
Mi fydd y gynhadledd hon yn galluogi nyrsys i rwydweithio, dysgu a rhannu ymarfer gorau drwy weithdai, siaradwyr a bod yn bresennol gyda'i gilydd. Byddwn yn rhannu ein darganfyddiadau o’n hymarfer ymgysylltu gyda’r gweithlu nyrsio, “Y Sgwrs Fawr - Nyrsio yng Nghymru” sy’n cael ei lansio ar y 30 o Fai 2023 hyd at y 20 o Fehefin 2023. Mi fydd y gynhadledd hefyd yn galluogi’r rhai sy’n mynychu i rannu syniadau sy’n gwella cadw staff o fewn y gweithle yn ogystal â chwilio am ddatrysiadau a chymhelliannau ar gyfer gweithle hapus ac iach.
Mi fydd yno siaradwyr gwadd, a bydd lluniaeth ar gael.
Archebwch eich lle ar y gynhadledd nyrsio yng Nghaerdydd
Archebwch eich lle ar y gynhadledd nyrsio yn Llandudno
Agenda i ddilyn yn fuan.