Yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), nid ydym ond yn gweithio y tu ôl i'r llenni – rydym yn arwain y ffordd. Ein rôl ni yw cynllunio, hyfforddi a thyfu gweithlu gofal iechyd medrus, tosturiol a chynaliadwy i Gymru.
Dyma olwg ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ar draws ein timau:
- Mae Llwyfan e-Ddysgu Cenedlaethol AaGIC, Y Ty Dysgu bellach wedi cyrraedd dros 32,000 o ddefnyddwyr! Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2022, mae Y Tŷ Dysgu wedi dod yn gonglfaen ar gyfer datblygiad proffesiynol ar draws gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Darganfod mwy.
- Estyniad ar y dyddiad cau - Rydym yn datblygu Strategaeth Addysg newydd i helpu i lunio gweithlu medrus a chynaliadwy yn y GIG –Dweud eich dweud.
- Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n hyfforddi ym maes gofal iechyd ac wedi profi rhywbeth nad yw'n hollol iawn, rydym yn eich annog i godi eich llais. Er mwyn eich helpu chi, rydym wedi datblygu pecyn cymorth ar godi pryderon. Ar gael yma.
- Mae'r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SWPPC) wedi lansio tudalen we newydd sbon a chylchlythyr chwarterol fel eich hwb ar gyfer diweddariadau ar gynnydd, cyfleoedd hyfforddi, a ffyrdd o gymryd rhan. Darganfod mwy.
- Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi partneriaeth rhyngom ni ac Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth yn Wrecsam, gan ddod â gwyddoniaeth gofal iechyd yn fyw i'r genhedlaeth nesaf. Darganfod mwy.
- Cydweithio dros ofal llygaid gwell - rydym yn dod â gweithwyr gofal llygaid proffesiynol ynghyd ar draws Cwm Taf Morgannwg ar gyfer Digwyddiad Adolygu gan Gymheiriaid Amlddisgyblaethol ar Olwg Gwan. Darganfod mwy.
- Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod rhaglen DEMEC25 (Cynhadledd Datblygu Rhagoriaeth mewn Addysg Feddygol) bellach ar waith, rydym yn falch o fod wrth wraidd addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithlu gofal iechyd sy’n gynaliadwy yn fyd-eang. Darganfod mwy.
- Daeth Cynhadledd Tîm Deintyddol Cymru Gyfan eleni, a gynhaliwyd gan ein Deoniaeth Ddeintyddol, â gweithwyr proffesiynol deintyddol o bob cwr o Gymru ynghyd. Darganfod mwy.