Mae gan AaGIC rôl allweddol i’w chwarae wrth lunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, gan sicrhau gofal cleifion o ansawdd uchel drwy ddatblygu a gweithredu rhaglenni a hyfforddiant perthnasol.
Dyma'r newyddion addysg, hyfforddiant a gyrfaoedd diweddaraf:
- Cynhelir ein cyfarfod bwrdd agored ar-lein ddydd Iau 29 Mai am 10:15. Mae croeso i bawb ymuno wrth i ni drafod busnes AaGIC. Mae manylion ar sut i gofrestru i'w gweld yma: Cyfarfodydd bwrdd a phwyllgor - AaGIC
- Rydym yn gyffrous i agor cofrestru ar gyfer ein cynhadledd Efelychu Flynyddol 'Adeiladu pontydd mewn ymarfer efelychu: Gweithio a dysgu ar y cyd ledled Cymru' ar Ddydd Llun 30 Mehefin 2025.
Archebwch eich lle ar gyfer y digwyddiad rhithwir rhad ac am ddim hwn: https://HEIWsimconf2025.eventbrite.co.uk
- Cynhelir ein Cynhadledd Meddygon a Deintyddion SAS nesaf ar 1 a 2 Gorffennaf 2025. I archebu eich lle gweler; Meddygon SAS - AaGIC Mae deallusrwydd artiffisial yn newid gofal iechyd – ond ydyn ni'n barod? Yn AaGIC, rydym yn cymryd camau i roi'r sgiliau i weithlu GIG Cymru i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn ddiogel, yn foesegol ac yn gyfrifol.
- Mae ein hadolygiad diweddaraf o dirwedd AI yn tynnu sylw at yr angen brys am addysg AI strwythuredig ar draws gweithlu'r GIG. https://heiw.nhs.wales/files/ai-landscape-review/
Darllenwch fwy am ein cynlluniau addysg AI: Adeiladu Sgiliau AI yn GIG Cymru - AaGIC
- Ers lansio Cynllun Gweithlu Nyrsio Strategol Cymru, rydym wedi derbyn nifer o gwestiynau. I helpu, rydym wedi creu tudalen Cwestiynau Cyffredin! Ewch i'n gwefan i ddysgu mwy aagic.gig.cymru/files/nursing-workforce-plan-faqs-cym/. Cadwch lygad allan am y diweddariadau diweddaraf ar ein cynnydd! Cynllun gweithlu nyrsio strategol - AaGIC
- Roedd ein Cynhadledd Gwyddor Iechyd Cymru 2025 yn llwyddiant ysgubol yn Llandudno yr wythnos diwethaf. Croesawodd y digwyddiad siaradwyr amrywiol gan rannu eu mewnwelediadau, gwybodaeth ac arbenigedd amhrisiadwy. Trafododd y siaradwyr amrywiaeth o bynciau hanfodol sy'n sylfaenol i wasanaethau ar hyn o bryd. Prif ffocws y digwyddiad oedd cynaliadwyedd y GIG drwy wahanol agweddau gwyddor iechyd; gan gynnwys arweinyddiaeth, gwasanaethau o safon, gweithlu ac addysg, technolegau'r dyfodol, yr economi a fferyllol.
- Rydym wrth ein bodd i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cynaliadwyedd GIG Cymru gyda'n gwaith cydweithredol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar gynyddu nifer y lleoliadau nyrsys ymarfer cyffredinol mewn practisau meddyg teulu ledled Cymru. I ddysgu mwy am hyn, darllenwch ein blog staff: https://heiw.nhs.wales/news/training-tomorrows-general-practice-nurses-today
- Diweddariadau pellach https://heiw.nhs.wales/news/