Neidio i'r prif gynnwy

Uchafbwyntiau AaGIC - 21 Tachwedd 2025

Yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), nid ydym yn cefnogi'r system yn unig – rydym yn helpu i'w harwain.

Fel y corff cenedlaethol ar gyfer cynllunio, addysg a hyfforddiant y gweithlu, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu gofal iechyd medrus, tosturiol a chynaliadwy i Gymru. Gan weithio'n agos gyda byrddau iechyd, prifysgolion, Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar draws y system, rydym yn sicrhau bod y bobl gywir wedi'u cyfarparu â'r sgiliau cywir, yn y rolau cywir, ar yr amser cywir.

Dyma olwg gyflym ar sut rydym wedi bod yn cael effaith yn ddiweddar:

  • Taflu Goleuni ar Lwyddiant!

Rydym yn falch o ddathlu cyflawniadau'r garfan gyntaf o ddysgwyr a gwblhaodd Diploma Lefel 7 Addysg a Gwella Iechyd Cymru mewn Ffotograffiaeth Glinigol, y cyntaf o'i fath yng Nghymru.

https://aagic.gig.cymru/newyddion/taflu-goleuni-ar-lwyddiant-mae-adroddiad-sicrhau-ansawdd-allanol-eqa-yn-dangos-ymrwymiad-aagic-i-addysg-ragorol-wrth-i-ddysgwyr-ffotograffiaeth-glinigol-ragori-yn-y-garfan-achrededig-gyntaf/

  • Dyddiad cau wedi'i ymestyn! Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol addysg gofal iechyd yng Nghymru.

Mae AaGIC yn datblygu Strategaeth Addysg GIG Cymru gyntaf erioed, ac rydym am glywed gennych chi!  https://aagic.gig.cymru/newyddion/dyddiad-cau-wedii-ymestyn-helpwch-i-lunio-dyfodol-addysg-gofal-iechyd-yng-nghymru/

  • Byddwch yn rhan o lansiad e-ddysgu Cyfweld Ysgogol AaGIC, 3 Rhagfyr, 3:30 – 4:30pm, gweminar ar-lein. Cofrestrwch yma https://ytydysgu.heiw.wales/signup
  • Wythnos Llythrennedd Genomeg

Mae Wythnos Llythrennedd Genomeg yn gyfle i weithlu GIG Cymru gynyddu eu dealltwriaeth o genomeg a'i gallu i wella gofal cleifion ar draws pob maes o ymarfer clinigol. https://aagic.gig.cymru/ein-gwaith/genomeg/wlg/

Am wythnos mae hi wedi bod! Un o'r adegau hynny lle mae syniadau, cydweithio ac egni'n dod at ei gilydd a gallwch chi deimlo’r momentwm. https://aagic.gig.cymru/newyddion/wythnos-fawr-i-ai-mewn-iechyd-a-gofal-ac-amser-balch-i-gymru/

  • ‘Model Cymorth’ i gofrestrwyr newydd  a Fferyllwyr rhagnodi annibynnol newydd ar ddechrau eu gyrfa 2026 ‘

Ydych chi'n ymarferydd fferyllol profiadol sydd â diddordeb mewn ymgymryd â rôl fel goruchwyliwr addysgol fel rhan o 'Model Cymorth' newydd AaGIC o fis Medi 2026?

https://aagic.gig.cymru/addysg-a-hyfforddiant/fferyllfa/fferyllydd-sylfaen-ol-gofrestru-prfp-2026-model-cymorth/