Gan eistedd ochr yn ochr â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, mae gennym rôl arweiniol yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, gan gefnogi gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.
Dyma rai o’n huchafbwyntiau diweddar:
Mae ceisiadau ar agor ar gyfer Rhaglen Graddedigion Rheolaeth Gyffredinol GIG Cymru 2025/2027 tan yr 2il o Fawrth 2025! Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at heiw.graduateprogramme@wales.nhs.uk neu ewch i
https://nhswalesleadershipportal.heiw.wales/graduate...
Mae ein rhaglen Hyfforddiant Sylfaen Therapyddion Deintyddol ar gyfer therapyddion deintyddol sydd newydd gymhwyso yn dechrau ym mis Medi 2025. Mae ceisiadau nawr ar agor.
Gweler ein tudalennau gwe am wybodaeth a sut i wneud cais: https://aagic.gig.cymru/.../rhaglen-hyfforddiant.../
Dechreuwch Eich Gyrfa GIG gyda phrentisiaeth yng Nghymru! Chwilio am yrfa werth chweil lle gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol?
Darganfyddwch eich dyfodol yn GIG Cymru heddiw! Am fwy o wybodaeth https://careersville.heiw.wales/careersville-page/27
Ydych chi'n arweinydd AHP neu'n weithiwr proffesiynol sy'n rheoli timau aml-broffesiynol? Ymunwch â ni am hyfforddiant ymarferol sydd wedi'i gynllunio i wella eich sgiliau cynllunio gweithlu.
Cofrestrwch yma https://www.eventbrite.com/.../introduction-to-workforce...
Mae technoleg yn trawsnewid gofal iechyd, ond mae hyder digidol yn allweddol. Oeddech chi’n gwybod bod y Fframwaith Gallu Digidol (DCF) ar gael i holl staff gofal iechyd Cymru?
Dechreuwch eich taith sgiliau digidol heddiw i fagu hyder, ehangu eich arbenigedd, ac yn y pen draw gwella gofal cleifion. https://heiw.nhs.wales/ein.../fframwaith-gallu-ddigidol/
Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol Gweithrediaeth GIG Cymru ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn gyffrous i wahodd timau a rheolwyr Amenedigol (Mamolaeth a Newyddenedigol) ar bob lefel i ymuno â ni yn y digwyddiad pwysig hwn. Mwy o wybodaeth
https://aagic.gig.cymru/.../datganiad-ansawdd-a-lansio.../
Agorodd y ffenestr ymgeisio Llai na Llawn Amser ar y 1af o Chwefror tan 28ain o Chwefror 2025.
Os ydych yn ddeintydd neu'n feddyg dan hyfforddiant a bod gennych ddiddordeb mewn newid eich oriau gwaith rhwng Awst 2025 a Ionawr 2026, ewch i wefan AaGIC i gael gwybod mwy ac i gwblhau'r ffurflen gais ddigidol. https://aagic.gig.cymru/.../llai-na.../ffurflenni-cais/
Mae ceisiadau am swyddi Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP) yng Nghymru AR AGOR. Gwnewch gais yma i hyfforddi yng Nghymru:
https://aagic.gig.cymru/.../stp.../ceisiadau-stp-2024-cymru/
Dyddiad cau: 02 Mawrth 2025.
Ymunwch â ni ar gyfer y Dosbarth Meistr cyntaf rhad ac am ddim yn ein Cyfres Gwanwyn Arweinyddiaeth Arbenigol ddydd Iau 20 Mawrth 12:00-13:00. Dim ond i arweinwyr a darpar arweinwyr yn GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru y mae’r Dosbarth Meistr hwn ar gael.
Archebwch eich lle nawr! https://nhswalesleadershipportal.heiw.wales/.../overview
“Cymorth pan fyddwch ei angen fwyaf” Codi Llais Heb Ofn ar gyfer hyfforddeion gofal iechyd, myfyrwyr a staff AaGIC
https://aagic.gig.cymru/.../codi-pryder-a-chodi-llais.../
Os ydych wedi profi neu weld ymddygiad amhroffesiynol neu aflonyddu tra yn y gwaith neu ar leoliad, rydym yn eich annog yn gryf i godi llais.
Rydym yn falch o lansio'r Cynllun Datblygu Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) wedi'i ddiweddaru Drwy roi’r cynllun hwn ar waith, gall y gweithlu AHP ddiwallu anghenion iechyd newidiol poblogaeth y dyfodol drwy drawsnewid, gan sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel i gleifion a galluogi unigolion i fyw bywydau iachach am gyfnod hwy.
Gyda’n gilydd, gallwn lunio dyfodol y gweithlu AHP a gwella gofal cleifion! Darllenwch y cynllun llawn yma https://aagic.gig.cymru/.../cynllun-datblygur-gweithlu.../
Wedi'u cynllunio gan feddygon teulu, arbenigwyr addysg, arbenigwyr clinigol blaenllaw a chleifion, mae cyrsiau GatewayC yn helpu staff gofal sylfaenol i wneud diagnosis o ganser yn gynharach. Darllen mwy
https://www.gatewayc.org.uk