Neidio i'r prif gynnwy

Uchafbwyntiau AaGIC 05 Rhagfyr 2025

Yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), rydym yn chwarae rhan ganolog wrth lunio gweithlu gofal iechyd modern a gwydn i Gymru. Drwy gynllunio gweithlu strategol, addysg o ansawdd uchel a phartneriaethau cydweithredol, rydym yn helpu i sicrhau bod gan wasanaethau'r dalent a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt, nawr ac yn y dyfodol.

Cymerwch olwg ar rai o'n cyflawniadau diweddaraf:

Y mis hwn, roeddem yn falch iawn o helpu i nodi llwyddiant mwy na 50 o weithwyr cymorth gofal iechyd o Betsi Cadwaladr sydd wedi cwblhau'r Dystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Gofal Iechyd yn ddiweddar. https://aagic.gig.cymru/newyddion/gweithwyr-cymorth-gofal-iechyd-yn-dathlu-llwyddiant-addysg-uwch-gydag-aagic-a-phartneriaid/

 

Mae AaGIC yn parhau i gefnogi hyfforddiant efelychu o ansawdd uchel, sy’n ddiogel ac yn hygyrch ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal. O'n Fframwaith Efelychu sy'n seiliedig ar Gwella Ansawdd i'n Rhaglen Datblygu Cyfadran sy'n tyfu , ynghyd ag adnoddau ar-lein dwyieithog, rydym yn helpu timau i ddysgu, arloesi a gwella gofal cleifion. https://aagic.gig.cymru/newyddion/aagic-yn-gwella-ansawdd-gofal-ledled-cymru-drwy-efelychu/

 

Y mis hwn, daeth Byrddau AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru  at ei gilydd i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf a siarad am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n effeithio ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd yn gynhyrchiol iawn!

 

Rydym yn falch o gyflwyno HALI – y Rhyngwyneb Dysgu AI Gofal Iechyd, mentor sgwrsio AI arloesol sydd wedi'i gynllunio i fagu hyder, gwybodaeth a gallu digidol ledled GIG Cymru. https://heiw.nhs.wales/news/introducing-hali-empowering-wales-healthcare-workforce-with-ai/

Mae AaGIC yn dathlu arloesedd a thosturi yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Pobl HPMA 2025. Roeddem yn falch o ymuno â sefydliadau o bob cwr o'r DU yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Pobl HPMA 2025 https://aagic.gig.cymru/newyddion/cyflwyno-hali-grymuso-gweithlu-gofal-iechyd-cymru-gyda-deallusrwydd-artiffisial-ai/

 

Rydym yn falch o gefnogi ymgyrch flynyddol Comisiynydd y Gymraeg Defnyddia Dy Gymraeg, sy'n dathlu gwasanaethau Cymraeg ledled Cymru ac yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith. https://aagic.gig.cymru/cefnogaeth/defnyddior-gymraeg-yn-y-gweithle/

 

Mae AaGIC yn recriwtio Aelod Annibynnol o'r Bwrdd! Dyma gyfle gwych i helpu i lunio dyfodol gweithlu'r GIG yng Nghymru. Rydym yn arwain ar addysg, hyfforddiant, cynllunio a datblygu'r gweithlu, arweinyddiaeth a gyrfaoedd ledled GIG Cymru. https://aagic.gig.cymru/newyddion/ymunwch-a-bwrdd-aagic-fel-aelod-annibynnol/

Ydych chi'n nyrs gofal sylfaenol? Gall yr adnodd addysgol hwn gefnogi hyder wrth asesu cleifion ac adnabod arwyddion cynnar o ganser. Ledled Cymru mae gennych bellach fynediad am ddim i GatewayC, platfform dysgu a ddyluniwyd gan y GIG sy'n cefnogi diagnosis cynnar o ganser. www.gatewayc.org.uk