Neidio i'r prif gynnwy

Taflu Goleuni ar Lwyddiant: Mae adroddiad Sicrhau Ansawdd Allanol (EQA) yn dangos ymrwymiad AaGIC i addysg ragorol wrth i ddysgwyr ffotograffiaeth glinigol ragori yn y garfan achrededig gyntaf

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o rannu llwyddiant ei Ddiploma Lefel 7 newydd mewn Ffotograffiaeth Glinigol, gyda'r garfan gyntaf yn dathlu cwblhau'r cwrs.

Wedi'i achredu gan Agored Cymru, dyma’r diploma cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae wedi cael ei ganmol mewn adroddiad Sicrhau Ansawdd Allanol (EQA) diweddar am ei ddyluniad a'i safon uchel o ddarpariaeth.

Mae’n ffurfio rhan o gynllun IMTP 2025-2028 AaGIC i ddarparu addysg a hyfforddiant rhagorol i greu gweithlu sy'n barod ar gyfer y dyfodol sy'n cael effaith gadarnhaol ar ofal cleifion. Mae'r cwrs yn enghreifftio'r gwaith sy'n mynd i mewn i gynnig cyfleoedd dysgu a datblygu o safon uchel sy'n anelu at ddiwallu gofynion esblygol gofal iechyd yng Nghymru.
 

Beth yw Ffotograffiaeth Glinigol?

Mae ffotograffiaeth glinigol yn faes arbenigol sy'n cyfuno sgiliau ffotograffig technegol â gwybodaeth feddygol i ddogfennu cyflyrau, triniaethau a chynnydd cleifion. Mae'r delweddau hyn yn hanfodol ar gyfer diagnosis, cynllunio triniaeth, ymchwil ac addysg, gan helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu'r gofal gorau posibl.
 

Tystiolaeth o Ragoriaeth

Mae cyflwyno cymhwyster sydd wedi'i achredu gan Agored Cymru yn gofyn am broses drylwyr i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi'n llawn o adeg cofrestru ar gyfer y cwrs hyd at ei gwblhau.

Roedd y broses yn cynnwys:

  • Staff cymwys yn cyflwyno, asesu a sicrhau ansawdd holl waith y dysgwr.
  • Aseswyr yn cael eu harsylwi a'u cefnogi i gynnal safonau uchel.
  • Sicrhawyr Ansawdd Mewnol (IQAs) yn sicrhau bod yr holl weithgareddau asesu yn bodloni gofynion cadarn Agored Cymru.
  • Roedd cyfarfodydd rheolaidd â Phenaethiaid adrannau Ffotograffiaeth Glinigol yn sicrhau bod y cymhwyster yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ymatebol i anghenion y gweithle.
  • Lle nad oedd gwaith yn bodloni'r meini prawf gofynnol i ddechrau, rhoddwyd adborth clir ac adeiladol i ddysgwyr a chyfleoedd i ailgyflwyno, gan sicrhau mynediad teg a datblygiad dysgwyr.

Canmolodd yr adroddiad y sicrwydd ansawdd mewnol a thynnodd sylw at ehangder ac ansawdd y dulliau asesu a ddefnyddiwyd. Canfu hefyd fod yr holl dystiolaeth asesu yn ddilys, yn ddibynadwy, ac yn gyfredol.
 

Dathlu Cyflawniadau

Nododd Agored Cymru:

“Mae’r EQA yn cydnabod gwaith caled y ganolfan, ei dull myfyriol a’i hymrwymiad i ddarpariaeth o ansawdd uchel yn ystod cylch llawn cyntaf y cymhwyster hwn. Mae yna dystiolaeth glir o weithgareddau asesu a sicrhau ansawdd mewnol sy'n gadarn ac yn rhagweithiol.”

Cyflwynodd dau ddysgwr eu prosiectau gwella gwasanaeth yng Nghynhadledd Flynyddol Sefydliad y Darlunwyr Meddygol yn Newcastle, ac mae staff y tîm ffotograffiaeth glinigol yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi rhannu eu profiadau mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol, gan godi proffil addysg ffotograffiaeth glinigol yng Nghymru.
 

Edrych tua’r Dyfodol

Mae'r cylch cyntaf llwyddiannus yn gosod safon uchel ar gyfer carfannau’r dyfodol. Mae'r ymrwymiad i ymarfer myfyriol, gwelliant parhaus, a chefnogaeth i ddysgwyr yn sicrhau bod AaGIC mewn cydweithrediad â'r corff dyfarnu Agored Cymru yn parhau i ddarparu cymwysterau sy'n bodloni'r safonau uchaf.

Mae'r bartneriaeth hon yn edrych ymlaen at baratoi dysgwyr mewn carfannau yn y dyfodol ar gyfer gyrfaoedd effeithiol mewn ffotograffiaeth glinigol sy'n cefnogi diagnosis, triniaeth a gofal parhaus i gleifion yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae AaGIC yn cefnogi Carfan 2 a 3 ar hyd eu taith.