Ymunodd Brogan Cabraal ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar secondiad yn 2023 fel Arweinydd Clinigol Gwyddor Gofal Iechyd ar gyfer Ymchwil ac Arloesi. Wrth i’w secondiad ddod i ben, rydym am ddathlu ei chyflawniadau, gan gynnwys lansio’r Strategaeth Ymchwil Gwyddor Gofal Iechyd, ac amlygu ei phrofiad yn AaGIC.
Mae Brogan yn gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel Niwroffisiolegydd Ymarfer Uwch. Mae hon yn rôl arbenigol a phwysig, yn profi gweithrediad yr ymennydd a nerfau ymylol ar gyfer cleifion sy'n mynychu ei chlinigau. Astudiodd Brogan radd Meistr mewn Niwroffisioleg Glinigol i hybu ei sgiliau ac ar ôl graddio, roedd yn chwilio am yr her nesaf.
Yn ystod ei hastudiaethau, mwynhaodd Brogan y modiwlau arweinyddiaeth ac ymchwil yn arbennig, felly cyn gynted ag y gwelodd gyfle secondiad AaGIC, gwnaeth gais ar unwaith. Roedd Brogan yn meddwl y byddai ei chais yn cael ei wrthod ond yn ffodus, yn groes i’w disgwyliad, cynigiwyd cyfweliad llwyddiannus iddi ac o ganlyniad, swydd secondiad.
Ymsefydlodd Brogan yn AaGIC yn dda iawn, a daeth yn rhan annatod o'r Tîm Gwyddor Gofal Iechyd yn fuan iawn. Ymhlith llawer, mae’r cyflawniadau allweddol yn cynnwys meithrin perthnasoedd newydd ag arbenigwyr ymchwil ledled Cymru a’r DU, a chreu Strategaeth a Chynllun Cyflawni Ymchwil ac Arloesedd Gwyddor Gofal Iechyd. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn sicrhau bod proffesiynau gwyddor gofal iechyd yn gallu ymgymryd ag ymchwil ac arloesi yn well trwy gydol eu gyrfaoedd.
Cyn i Brogan orffen yn AaGIC, fe wnaethom ofyn rhai cwestiynau iddi:
Beth ydych chi wedi'i ddysgu o'r secondiad?
“Rwyf wedi dysgu cymaint am rôl gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd eraill a’r cyfraniadau gwych at ymchwil sy’n canolbwyntio ar y claf a’r datblygiadau arloesol ym maes gofal iechyd sy’n digwydd ar draws ein gweithlu. Rwy’n gobeithio gymryd y wybodaeth a’r sgiliau rydw i wedi’u datblygu a helpu i adeiladu ar ddiwylliant ymchwil o fewn fy mhroffesiwn gwyddor gofal iechyd fy hun mewn Niwroffisioleg.”
Beth yw eich barn am AaGIC fel sefydliad?
“Mae AaGIC yn gwneud cymaint mwy i GIG Cymru nag yr oeddwn wedi meddwl yn wreiddiol cyn y secondiad. Rhaid cyfaddef, roeddwn yn meddwl bod y sefydliad yn ymwneud yn bennaf ag ariannu a chydlynu addysg gofal iechyd ledled Cymru. Er mai dyna yw cylch gwaith AaGIC, mae llawer mwy yn digwydd hefyd, gan fynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r gweithlu, gallu digidol, cynaliadwyedd, diwylliant, hunaniaeth broffesiynol a llawer mwy.”
A fyddech chi'n argymell gweithio yn AaGIC?
“Byddwn, rydw i wedi cael croeso mawr gan bawb yn AaGIC ac wedi mwynhau gweithio’n fwy cenedlaethol a strategol. Mae wedi bod mor ddefnyddiol gweld y ddwy ochr, sef ymarfer clinigol, ac AaGIC, gyda chyfle i fod yn rhan o arwain a gwneud penderfyniadau cenedlaethol.”
Gan bawb yn AaGIC, hoffem ddiolch yn fawr i Brogan a dymunwn y gorau iddi yn ei mentrau yn y dyfodol.
Ewch i wefan AaGIC i ddysgu mwy am ein gwaith ym maes gwyddor gofal iechyd.